Newyddion S4C

Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd: Cymru'n curo Kazakhstan 3-1

Cymru yn erbyn Kazakhstan

Mae Cymru wedi curo Kazakhstan 3-1 yng ngêm gyntaf eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2026.

Dyma gêm gyntaf Craig Bellamy wrth y llyw ar gyfer ymgyrch Cymru i gyrraedd prif gystadleuaeth a gwneud yn iawn am siom Qatar yn 2022.

Doedd Cymru ddim ar eu gorau gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd a bydd rhaid iddyn nhw godi eu gêm ar gyfer Gogledd Macedonia oddi cartref ddydd Mawrth.

Dywedodd Dan James ar ôl y gêm: “Fe wnaethon ni bwysleisio trwy’r wythnos bwysigrwydd dechrau yn dda a dyna beth wnaethon ni heno.

"Rydw i wrth fy modd. Mae bob amser yn braf cael sgorio.

“Roedden ni braidd yn anffodus gyda’r gic gosb ond fe wnaethon ni frwydro'n ôl."

Fe brofodd Dan James y dechrau perffaith i'r gêm wrth iddo sgorio gyda’i ymdrech gyntaf ar y gôl wedi blerwch amddiffynnol gan Kazakhstan ar ôl cic gornel.

Roedd Cymru yn rheoli’r gêm yn gyfforddus am yr 20 munud nesa ond yna fe lawiodd Connor Roberts y bêl ac ar ôl cip ar y VAR fe benderfynodd y dyfarnwr roi cic gosb i Kazakhstan.

Llwyddodd golwr Cymru Karl Darlow i roi ei droed yn ffordd cic Askhat Tagybergen o’r smotyn ond fe rowliodd y bêl heibio iddo ac i mewn i’r rhwyd.

Fe enillodd Josh Sheehan gic rydd i Gymru o 30 llath ond fe wnaeth David Brooks ei ergydio dros ben y gôl.

Ar ôl dechrau hyderus doedd Cymru ddim ar eu gorau ac fe orffennodd yr hanner gyda’r timoedd yn gyfartal 1-1.

Yr ail hanner

Fe ddechreuodd yr ail hanner yn yr un modd â’r cyntaf wrth i Gymru sgorio o fewn y munudau cyntaf.

Peniodd capten Cymru, Ben Davies y Bêl i mewn o agos o gic gornel gan Sorba Thomas.

Bu bron i Gymru sgorio eto wedi cic rydd gan Neco Williams ond llwyddodd golwg Kazakhstan Alexandr Zarutskiy i’w gadw allan.

Roedd Cymru yn edrych yn llawer mwy cyfforddus yn yr 20 munud olaf ac fe agoriodd Rabbi Matondo oddi ar y fainc i selio'r fuddugoliaeth i'w dîm.

Fe gurodd Gogledd Macedonia Liechtenstein 3-0 yn gêm arall Grŵp J ddydd Sadwrn.

Fe fydd Cymru yn eu chwarae oddi cartref yn Skopje ddydd Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.