Caerdydd: Tro pedol ar godi tâl i gau ffyrdd ar gyfer partïon stryd VE
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y bydd yn hepgor costau ar gyfer partïon stryd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) eleni ar ôl i un grŵp o drigolion gael sioc o ddarganfod y gallai fod yn rhaid iddyn nhw dalu cannoedd o bunnoedd.
Cysylltodd trigolion ar Ffordd Kimberley ym Mhen-y-lan â’r cyngor ddechrau’r flwyddyn ynghylch y posibilrwydd o gynnal parti stryd i ddathlu 80 mlynedd ers Diwrnod VE ar 10 Mai, 2025.
Mewn sgwrs anffurfiol rhwng y cyngor ac unigolyn droes e-bost, dywedodd yr awdurdod lleol y byddai’n rhaid iddyn nhw dalu tua £450 ynghyd â TAW er mwyn cau’r ffordd i gynnal y parti.
Dywedodd trigolion ar y stryd nad oedden nhw erioed wedi cael cais i dalu am gau ffordd er mwyn cynnal parti stryd Diwrnod VE yn y gorffennol a’u bod nhw bob amser yn defnyddio eu gwirfoddolwyr eu hunain i drefnu cau ffyrdd.
Ond mae’r cyngor bellach yn dweud y bydd yn gallu hepgor y costau oherwydd setliad cyllideb mwy ffafriol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd un o drigolion Ffordd Kimberley, Jeremy Sparkes: “Roedd yn warthus i’r cyngor geisio codi ffioedd ymhell dros £500 ar ein cymunedau sydd am ddod at ei gilydd i goffau.
“Rydym yn falch eu bod wedi gweld synnwyr ac wedi gwrthdroi’r cyhuddiad chwerthinllyd hwn ond ni ddylem fyth fod wedi gorfod codi’n llais, mae’n orfodaeth gwbl amhriodol a heb gyfiawnhad yn y lle cyntaf.”
'Mwynhau'
Yn y drafodaeth e-bost rhwng y cyngor ac un o drigolion Ffordd Kimberley, dywedodd y cyngor y byddai'r costau’n talu am staff cymwys i reoli'r pwyntiau cau ffyrdd.
Dywedodd hefyd y byddai'n rhaid i'r awdurdod lleol dderbyn dyfynbris llawn gan y byddai angen iddo ystyried costau hysbysiad rheoleiddio traffig dros dro, defnyddio fan a llogi offer.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Newid Hinsawdd a Chynllunio Strategol Cyngor Caerdydd bod yr arian gan y Llywodraeth yn eu galluogi i hepgor y costau ar gyfer y dathliadau.
Bydd hyn ar yr amod bod y digwyddiad yn anfasnachol ei natur, sy’n golygu nad oes unrhyw gynnyrch nac adloniant yn cael eu gwerthu i fynychwyr.
“Rydym yn gobeithio gweld llawer o bobl yno i fwynhau’r diwrnod ac i ddathlu a chofio’r achlysur hanesyddol hwn,” meddai.