‘Fe godwn ni eto’: Neges Aberystwyth wrth ddisgyn o haen uchaf pêl-droed Cymru ar ôl 33 mlynedd
Mae Aberystwyth wedi addo “codi eto” ar ôl disgyn o haen uchaf pêl-droed Cymru am y tro cyntaf mewn 33 mlynedd.
Cadarnhawyd y byddai Aberystwyth yn syrthio o Uwch Gynghrair Cymru ar ôl colled o 1-0 gartref yn erbyn Llansawel, nos Wener.
Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Cyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth eu bod nhw’n “cydnabod y dinistr y bydd hyn yn ei achosi i’n cefnogwyr ffyddlon”.
“Hoffem dawelu meddwl ein dilynwyr ein bod yn rhannu eich dinistr,” medden nhw.
Mae Aber wedi bod yn bresenoldeb cyson yng nghynghrair uchaf pêl-droed Cymru ers ei ffurfio yn 1992.
Bu bron iddyn nhw golli eu lle yn yr uwch gynghrair yn ystod y ddau dymor diwethaf, gan oroesi ar y diwrnod olaf yn unig.
Ond cadarnhawyd y byddai tîm Antonio Corbisiero yn syrthio i gynghrair is gyda thair gêm o’r tymor ar ôl i’w chwarae.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1903204979789447386
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’n cefnogwyr sydd wedi parhau i'n cefnogi trwy gydol y tymor anodd hwn, gan sicrhau torf o 365 ar gyfartaledd yn y JD Cymru Premier - er gwaethaf y tymor siomedig,” meddai’r clwb.
“Rhoddodd Rownd Derfynol y Cwpan Nathaniel MG gipolwg ar botensial ein Clwb Pêl-droed. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddatblygiad y Clwb - ar y cae ac oddi arno - ac rydym wedi ein cyffroi’n fawr gan gyfleoedd y blynyddoedd i ddod.
“Hoffem roi sicrwydd i gefnogwyr ein bod eisoes yn cynllunio ar gyfer ymgyrch lwyddiannus y tymor nesaf yn Haen 2, ac y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y Du a’r Gwyrddion yn dychwelyd i'r Cymru Premier cyn gynted â phosibl.
“Fe godwn ni eto!”