Newyddion S4C

Pêl-droed yn gyrru 'newid agweddau tuag at y Gymraeg'

Newyddion S4C 21/03/2025

Pêl-droed yn gyrru 'newid agweddau tuag at y Gymraeg'

Yma o Hyd. Hetiau Bwced. A’r iaith Gymraeg. Trawsnewidiad delwedd Cymru i’r byd trwy gêm y bêl gron.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi gwneud defnydd o ddiwylliant Cymreig i drawsnewid hunaniaeth y tîm cenedlaethol ar, ac oddi ar y cae.

Ym Mae Caerdydd ddydd Gwener daeth aelodau blaenllaw ym myd pêl-droed Cymru at ei gilydd i drafod yr union berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a gêm y bêl gron.

Yn ôl Tim Hartley, arbenigwr yn y maes, mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi bod yn flaengar wrth weddnewid agweddau diwylliannol yn nhorf gemau rhyngwladol Cymru.

Dywedodd: “Ma’ rhaid dweud bod Cymdeithas Bêl-droed wedi cofleidio’r Gymraeg ac wedi gwneud hi’n amlwg ac wedi normaleiddio hi.

"Ond wrth gwrs mae’r ffans eu hunan wedi hefyd. Ma’ angen yr hwb yna, y mwya’ yn y byd sy’n digwydd, y mwya’ o hoffder a normaleiddio’r Gymraeg sy’n digwydd, gorau’n byd ‘wy’n credu. “

Mae’r arfer o gwmpasu tîm pêl-droed trwy ddiwylliant yn un sydd i’w weld ar hyd a lled cyfandir Ewrop – ac ymhlith rhai o dimau mwya’r byd.

Mae Maria de Lluc Munoz Canyelles o Barcelona wedi gweld dylanwad yr iaith ar lwyddiant y tîm lleol.

Dywedodd Ms Canyelles: "Mae pawb sy'n caru pêl-droed yn adnabod Clwb Pêl-droed Barcelona ac arwyddair y clwb yw eu bod ‘yn fwy na chlwb yn unig’.

"Mae Barça yn gweithredu fel llysgennad i Catalunya ac yn gweithredu fel porth i bobl ddeall bod yr iaith yn rhan o bwy ydym ni.

"Ac mae’n help i ddeall pa mor bwysig yw’r iaith i hunaniaeth y clwb ond hefyd hunaniaeth pobl Catalunya a Barcelona."

'Rhan o'r iaith'

Gyda chynnydd aruthrol yn y niferoedd sy’n dilyn Cymru gartref ac i ffwrdd ers Ewro 2016, mae Elis Sleight, aelod o’r wal goch a chefnogwr rygbi Cymru yn credu fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gosod esiampl i’r hyn ddylai Undeb Rygbi Cymru ei wneud.

“Ma’ Cymdeithas Bêl-droed Cymru jyst wedi creu’r awyrgylch hyn bod ni fel cefnogwyr yn gallu bod yn rhan o’r tîm, yn rhan o’r profiad, yn rhan o’r iaith a’n rhan o’r wlad.

"Ar ddiwedd y dydd os ma’ nhw’n rhoi popeth i ni, nawn ni rhoi popeth iddyn nhw. They just get it.”

A chael hi’n iawn ar gae Stadiwm Dinas Caerdydd fydd nod Craig Bellamy wrth i Gymru herio Kazakhstan nos yfory yn eu hymgyrch i gyrraedd ail Gwpan y Byd yn olynol.

A chyfle arall i gefnogwyr Cymru i ffeindio’i llais yn y brifddinas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.