Pwy ddylai Steve Tandy ddewis yng ngharfan y Chwe Gwlad?

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Ross Moriarty, Tom Bowen a Jake Ball

11 Mawrth 2023 - y tro diwethaf i dîm rygbi dynion Cymru ennill gêm yn y Chwe Gwlad.

A gyda’r Cymry yn cychwyn eu hymgyrch eleni yn Twickenham yn erbyn Lloegr ar 7 Chwefror, mae’r bwcis yn hyderus na fydd y rhediad yna yn dod i ben ar benwythnos agoriadol y bencampwriaeth.

Fe fydd Steve Tandy yn enwi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad ddydd Mawrth, gyda sawl cwestiwn yn parhau dros bwy fydd yn cael eu cynnwys.

Mae disgwyl na fydd y capten Jac Morgan ar gael i chwarae yn y gemau cyntaf, ar ôl anafu ei ysgwydd yn yr Hydref y llynedd.

Mae amheuon hefyd dros bresenoldeb yr wythwr Taulupe Faletau, ar ôl i Gaerdydd gadarnhau y byddai’n methu o leiaf y tair gêm gyntaf oherwydd anaf i’w goes.

Felly mae disgwyl y bydd rhai wynebau newydd yn cael eu cynnwys yn y garfan ddydd Mawrth, ac efallai rhai sydd ychydig mwy cyfarwydd.

Dyma olwg ar rai o’r wynebau sydd â chyfle o gael eu cynnwys.

Tom Bowen – Asgellwr - Caerdydd

Efallai'r chwaraewr mwyaf cyffrous yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’r asgellwr 20 oed wedi sgorio pum cais yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig eleni.

Mae eisoes wedi ei gynnwys yng ngharfan estynedig y tîm Dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad, ond mae sawl un yn galw am iddo gael ei gynnwys yn nhîm Tandy.

Kieran Williams – Canolwr - Gweilch

Gyda chap i’w enw eisoes, mae rhai o gefnogwyr y Gweilch yn dymuno gweld y canolwr pwerus yn cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru unwaith eto ar ôl perfformiadau cyson drwy’r tymor.

James Williams – Canolwr - Bryste

Canolwr arall sydd yn cael ei glodfori gan gefnogwyr ei glwb ydi’r canolwr o Fryste, James Williams – ac mae sawl un yn credu ei fod yn haeddu cydnabyddiaeth gan Gymru.

Oli Burrows – Bachwr - Dreigiau

Mae’r bachwr 23 oed wedi bod yn gaffaeliad i’r Dreigiau eleni ar ôl arwyddo o Gaerwysg, ac mae wedi sgorio pum cais mewn 12 ymddangosiad dros ei ranbarth.

Image
Oli Burrows. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Oli Burrows. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Che Hope – Mewnwr - Dreigiau

Chwaraewr arall sydd wedi dal y llygaid yn Rodney Parade yw’r mewnwr 23 oed, a chwaraeodd ran allweddol mewn buddugoliaethau nodedig dros Connacht a'r Scarlets.

Kane James – Rheng-ôl - Caerwysg

Mae’r chwaraewr reng-ôl o Hwlffordd wedi creu argraff wrth chwarae’n gyson dros Gaerwysg dros y mis diwethaf.

Yn cyn-gapten dros dîm Dan 20 Lloegr, mae James hefyd yn gymwys i chwarae dros Seland Newydd – ond mae rhai cefnogwyr yn awyddus i’w weld yn gwisgo’r crys coch.

Alun Lawrence – Rheng-ôl - Caerdydd

Gyda Taulupe Faletau yn methu sawl gêm dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Lawrence wedi bod yn bresenoldeb cyson yn rheng ôl Caerdydd dros y cyfnod.

Mae’r wythwr yn nodweddiadol am ei waith caib a rhaw – sef y taclo di-baid a’r cario corfforol – ac mae wedi tyfu i fod yn bresenoldeb hollbwysig i’w rhanbarth.

Image
Alun Lawrence. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Alun Lawrence. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Ross Moriarty - Rheng-ôl - Gweilch

Gyda 54 cap i’w enw, mae Ross Moriarty yn wyneb cyfarwydd iawn i gefnogwyr Cymru.

Ond ar ôl cyfnod yn Ffrainc, nid yw wedi chwarae dros ei wlad ers 2022, ac mae galwadau i’r cyfnod alltud ddod i ben yn y Chwe Gwlad.

Jake Ball – Clo - Scarlets

Ar ôl dychwelyd i Lanelli ar ôl cyfnod yn Japan ac Awstralia, dywedodd yr ail-reng corfforol bod ganddo “ddigon” i’w gynnig i Gymru.

Ac yn bresenoldeb cadarn ym mhac y Scarlets y tymor hwn, mae rhai yn credu y dylai’r clo 34 oed gael y cyfle i ychwanegu at ei 50 gap.

Garyn Phillips – Prop - Gweilch

Mae’r prop pen rhydd pwerus wedi angori sgrym y Gweilch y tymor hwn. Cafodd ei alw i garfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica y llynedd, ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y gêm honno.

Ai dyma'r cyfle i'r gŵr o Abercynon?

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.