Ymgyrch i 'achub Plas Glynllifon' yng Ngwynedd
Mae ymgyrch godi arian wedi ei lansio i dalu am waith i adnewyddu plas hanesyddol Glynllifon yng Ngwynedd.
Mae cwmni er budd cymunedol wedi ei sefydlu medd trefnwyr yr ymgyrch godi arian, er mwyn "ymgymryd â'r dasg enfawr o ddod â bywyd yn ôl i Blas Glynllifon".
Nid yw enw'r cwmni wedi ei rannu ar yr apêl gofundme, ond Martina Jones sydd yn gyfrifol am sefydlu'r apêl.
Y gobaith yw codi £1 miliwn drwy dderbyn cyfraniadau gan y cyhoedd.
Ers cael ei sefydlu ar 3 Mawrth mae'r apêl wedi codi £20 hyd yma.
Mae cyfrif newydd wedi ymddangos hefyd ar blatfform fideos TikTok o'r enw 'Plas Glynllifon Restoration'.
Mae Plas Glynllifon wedi bod yn nwylo nifer o ddatblygwyr sydd wedi ceisio adfywio'r adeilad sylweddol dros y blynyddoedd.
Cafodd ei brynu gan Paul a Rowena Williams yn 2016 gyda'r gobaith o droi'r plasty yn westy moethus, ond fe aeth y busnes hwnnw i'r wal yn 2020.
Cais am arian
Fel rhan o'r datganiad sydd yn gofyn am arian adnewyddu ar gofundme, dywed y trefnwyr: "Mae'r 20 mlynedd diwethaf wedi ei weld yn mynd trwy ddwylo datblygwyr gwahanol, heb yr un yn llwyddo i'w roi ar waith.
"Mae wedi cael ei adael yn wag a heb ei gyffwrdd am y dair blynedd diwethaf ac mae wedi mynd â'i ben iddo yn ofnadwy.
"Rydym yn bwriadu rhoi bywyd yn ôl i'r adeilad, a rhoi'r TLC y mae'n ei haeddu iddo, gan weithio’n agos gyda’r cyngor lleol, swyddogion cadwraeth a gweithwyr proffesiynol sy’n adnewyddu adeiladau hanesyddol a fydd yn ein helpu i ddod â’r plasty yn ôl i’w hen ogoniant."
Ychwanegodd y datganiad: "Gwahodd pobl i mewn i gerdded o amgylch yr ystafelloedd niferus a defnyddio'r gofodau sydd ganddo i'w cynnig ar gyfer gwahanol grwpiau cymunedol, celf, dawns, cerddoriaeth ac ati.
"Marchnadoedd crefftwyr a gwneuthurwyr lleol a stiwdios a siopau artistiaid ar y safle.
"Bydd gennym ystafelloedd i'w gosod ar sail gwesty a mannau priodas/digwyddiad ar gyfer yr adeilad hwn er mwyn gallu talu amdano'i hun.
"Dewch i ni i gyd ddod at ein gilydd a gwneud hwn yr adeilad y mae'n haeddu bod, y gall pawb ei fwynhau!"
Llun: Wikipedia/'Chris'