Colofnydd yn ymddiheuro'n daer ar ôl galw Dylan Thomas yn Wyddel
21/03/2025
Mae colofnydd yn yr UDA wedi ymddiheuro'n daer ar ôl iddo gynnwys Dylan Thomas ar restr o feirdd amlycaf Iwerddon yn ei golofn yn nodi Dydd Sant Padrig.
Wrth lunio rhestr ddydd Llun o feirdd Gwyddelig ar gyfer Dydd San Padrig yn The Chicago Sun Times, roedd Neil Steinberg wedi camgymryd un o feibion amlycaf Abertawe am un o frodorion yr Ynys Werdd.
Mewn colofn o ymddiheuriad, dywedodd mai'r "unig beth sy’n waeth na bod yn effro am 4:00 ydy wynebu eich methiannau am 4:00.”
Ychwanegodd: "Fe wnes i gynnwys Dylan Thomas. Oedd yn Gymro wrth gwrs. Wedi cael ei eni yng Nghymru. A bu fyw ei fywyd yno. Fel Cymro. Roeddwn i'n gwybod hynny.
"Dw i wedi ysgrifennu am y balchder sydd gan Gymru tuag ato. Roedd y wybodaeth yn rhywle yn fy ymennydd. Ac eto nid oedd ar gael yn hawdd pan oedd y foment yn galw amdano. Achos bod Thomas, ar dudalen dau, wedi ei gynnwys ar ôl W.B. Yeats a chyn Seamus Heaney ac Oscar Wilde."
Ychwanegodd y byddai rhwyn wedi dychmygu bod ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ yn ddigon o gliw i'w atgoffa, ond doedd hynny heb ddod i'r cof ar y pryd.
Llun: BBC