Newyddion S4C

Tân ar y comin: Rhagor o danau gwyllt yn llosgi dros nos

21/03/2025

Tân ar y comin: Rhagor o danau gwyllt yn llosgi dros nos

Roedd hi'n noson brysur iawn i'r Gwasanaeth Tân unwaith eto nos Iau, gyda degau o danau gwair yn llosgi'n wyllt ar hyd a lled Cymru.

Yng Ngwynedd roedd tanau rhwng Carmel a'r Fron ger Dyffryn Nantlle, ac fe gafodd y cyhoedd eu cynghori i gau eu ffenestri dros nos yn Nhalysarn gan fod tân cyfagos yn cynhyrchu mwg sylweddol yno hefyd.

Roedd tanau hefyd yng Ngharrog ger Corwen a Thrawsfynydd yn y gogledd.

Mewn neges fore dydd Gwener, dywedodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru: "Mae ein criwiau ar hyn o bryd yn delio â thân gwyllt yng Ngarrog, Corwen gan arwain at fwg sylweddol - cynghorir trigolion i gau ffenestri fel rhagofal."

Yng Ngharmel, Gwynedd, cafodd neuadd y pentref ei hagor er mwyn cynnig seibiant i'r holl griwiau tân oedd wedi bod yno yn brwydro'r fflamau yn ôl y cynghorydd lleol, Arwyn 'Herald' Roberts.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd: "Braint oedd agor neuadd Carmel heno i Criw tân ac Achub Gogledd Cymru cael seibiant a panad wrth ymladd y tân ar fynydd Cilgwyn. 

"Criw Caernarfon; Bangor; Conwy; Nefyn; Benllech; Borthaethey; Pwllheli; Llangefni a Porthmadog a team "Wild Fire" yn presenol. 

"Mae'r criw yma yn griw arbenig iawn a ymladd y tân dam ymgylchiadau peryg iawn heno ac mi oeddwn yn dyst i hyn, mae'n dyled yn fawr iawn i'r criw."

Yn y de roedd tanau'n llosgi rhwng Merthyr a Rhymni dros nos, a ger Treorci hefyd.

Mae gwasanaethau tân Cymru wedi rhybuddio eu bod wedi bod yn derbyn nifer fawr o alwadau am danau gwyllt dros y dyddiau diwethaf.

Mae cyfnod hir o dywydd sych a gwyntoedd wedi ychwanegu at y sefyllfa, a nifer o amaethwyr yn llosgi grug ag eithin ar eu tir dan reolaeth yn ystod y cyfnod yma o'r flwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.