
Cwmni Theatr Maldwyn yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed

Cwmni Theatr Maldwyn yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed
Mae Cwmni Theatr Maldwyn yn 40 oed.
Y Mab Darogan ddechreuodd y cyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1981 - drama gerdd am hanes Owain Glyndŵr.
Yn y brif ran, Penri Roberts a sefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn gyda Linda Gittins a’r diweddar Derec Williams.
"Fuon ni'n trafod sawl testun cyn i ni ddod i'r penderfyniad gan mae ym Machynlleth oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i fod mai Owain Glyndŵr ddylai'r testun fod", meddai Penri Roberts wrth Newyddion S4C.
"Oedd criw o bobl hollol ddibrofiad, o ran ni'n tri yn sgwennu, ag o ran y cast i hunain.
"Hel pobl o bob rhan o'r sir a thu allan i'r sir yn Meirion, Ceredigion, gan ddod a chast o ryw 80 o bobl at ei gilydd a dechrau ymarfer y sioe ar gyfer yr Eisteddfod".
Er eu bod yn gwneud am y tro cyntaf erioed, roedd yr ymateb i gynhyrchiad y triawd yn rhyfeddol.

'Rhywbeth ffantastig'
Roedd Barri Jones yn y cynhyrchiad cyntaf - ac mae wedi bod ym mhob un ers hynny.
"O'n i wedi gwirioni", meddai.
"Y sioe, y caneuon, ond y cwmni hefyd, y cyfeillgarwch oedd hi'n rhywbeth ffantastig.
"'Na i byth anghofio diwedd y sioe, oedd pawb ar eu traed. Ond odd 'na rai hyd yn oed yn sefyll ar eu cadeiriau ac wedi gwirioni yn amlwg".
Dros y degawdau a thrwy gymaint o berfformiadau ar draws Cymru, mae’r cwmni wedi dod a dwsinau o gyplau at ei gilydd.
Fe wnaeth Irfon a Sian Davies gwrdd am y tro cyntaf wrth ymarfer ar gyfer y sioe Pum Diwrnod o Ryddid.
"O'n i ddim yn mynd i ganu i ddechrau, o'n i jyst yn mynd i helpu efo props a phethe, ac wedyn yn sydyn reit o'n i'n y corws", meddai Irfon.
"Mwynhau'r gwmnïaeth a mwynhau dysgu'r caneuon, a chwrdd ag Irfon, a 'da ni di bod yn briod 28 o flynyddoedd sy'n anhygoel", ychwanegodd Sian.
"Ma' gennym ni ddau o blant, a'r mab ieuengaf Huw wedi bod yn aelod o Ysgol Theatr Maldwyn, a ma' 'na nifer o gyplau yn gallu ailadrodd yr un hanes".
I nodi'r pen-blwydd ma' 'na lyfr newydd am hanes y cwmni wedi' gyhoeddi - Prydlondeb a Ffyddlondeb.
Llun: S4C