Newyddion S4C

'Dim dewis ond codi arian i gynnal fy ngyrfa ym myd golff'

Newyddion S4C

'Dim dewis ond codi arian i gynnal fy ngyrfa ym myd golff'

Mae Dion Reagan o Lanwnnen yng Ngheredigion yn treulio mwyafrif o’i amser ar y cwrs golff, a’r ymarferion dyddiol yn rhan bwysig o wireddu ei freuddwyd o fod yn golffiwr proffesiynol.

Gyda handicap o +4 mae’r chwaraewr 17 oed wedi chwarae mewn cystadlaethau amatur ar draws y byd, ond gyda chostau cynyddol o fewn y gamp mae wedi penderfynu codi arian i gynnal ei yrfa. 

Tra’n cydnabod fod “adnoddau’n brin o gymharu â gwledydd mwy” mae Golff Cymru yn dweud ei bod nhw’n “gweithio’n galed i ddatblygu chwaraewyr.

‘Ffili neud hyn heb yr help’

“Cwpl o fisoedd yn ôl enilles i mas yn Dubai, a ma’ hwnna wedi helpu yn fawr i gael yn enw i mas na. Ond ma’ cystadlu yn ddrud iawn, a lot o deithio yn rhan o’r gêm."

Dechreuodd Dion chwarae golff gyda’i dad pan yn ddwy oed, ac mae ei ddiolch i’w deulu sydd wedi ariannu ei yrfa hyd yma yn fawr.

“Odd Dad yn mynd a fi lan i ymarfer gyda fe bob nos, a nawr fi di cyrraedd lefel eithaf da a moyn gwthio’n hunan yn bellach.

“Ma’ teulu a ffrindiau wedi bod yn help mawr hefyd, a ma’ Mam bach fel manager!

“Ond wrth gystadlu o’n i’n gweld faint odd e’n mynd i gosti a phenderfynu creu tudalen ar lein i godi arian, bydden i ffili neud hyn heb yr help.”

Image
Dion Reagan

Bydd cyfran o’r arian sy’n cael ei godi yn mynd i elusen IPF hefyd, cyflwr ar yr ysgyfaint sydd yn ei gwneud hi’n anodd i anadlu.

“Dwi’n awyddus i roi nôl i elusen sy’n bwysig iawn r’r teulu.

“Rodd Tad-cu yn byw gyda IPF a dwi wedi codi arian i’r elusen yn y gorffennol drwy  72 twll mewn diwrnod.

“Nes i addo i Dad-cu cyn iddo farw y byddwn i byth yn rhoi’r gorau i’r freuddwyd."

Prin yw’r Cymry sydd wedi serennu ym myd golff, enillodd y Cymro Ian Woosnam y Meistri ar ddechrau’r 90au a 15 mlynedd ers i Gasnewydd gynnal y Cwpan Ryder mae Golff Cymru yn cydnabod fod adnoddau’n brin o gymharu â gwledydd eraill.

Image
Dion Reagan

Dywedodd Gareth Jenkins, Cyfarwyddwr Perfformiad Golff Cymru eu bod  “yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein chwaraewyr i ddatblygu.”

“Rydym yn derbyn cyllid gan ein clybiau a thrwy Chwaraeon Cymru Wales. Mae adnoddau'n gyfyngedig o gymharu â'r gwledydd mawr eraill, fodd bynnag, rydym yn cynnig cymorth sylweddol trwy gynghori ar amserlenni,  rhaglenni hyfforddi, ac yn cynnig cyfraniadau ariannol i rai twrnameintiau rhyngwladol.

“Rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd ariannu newydd i leihau'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu ein chwaraewyr.”

‘Gweithio’n galed’

Un o arwyr Dion yw Rory McElroy. Enillodd y gŵr o Ogledd Iwerddon y Meistri yn gynharach eleni.

“Fi’n dilyn rhywun fel Rory McElroy dyw e ddim wedi dod o lot o arian ond ma’ fe di gorfod gweithio’n galed i gyrraedd le ma’ fe.

“Ar y funud gweithio’n galed, cario ymlaen i hitio’n nhargedau. Ac mewn cwpl o flynyddoedd troi’n broffesiynol, a wedyn gobeithio troi’n broffesiynol a mynd lan y world rankings a gweld le aw ni.”

Image
Dion Reagan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.