
'Dim digon o gefnogaeth' i bobl sy'n dioddef â chyflwr Covid Hir

'Dim digon o gefnogaeth' i bobl sy'n dioddef â chyflwr Covid Hir
Bum mlynedd ers dechra’r pandemig, mae yna alw am fwy o fuddsoddiad a gwaith ymchwil i gyflwr Covid Hir.
Gyda data’n awgrymu bod bron i 100,000 o bobl yma yng Nghymru yn dal i ddioddef sgil effeithia’r feirws mae dynes o Ynys Môn yn dweud bod y gefnogaeth i gleifion yn brin gyda rhai yn gorfod teithio dros y ffin.
Yn ôl Sian Griffiths o Landegfan mae’r cyflwr yn golygu nad oes modd iddi weithio bellach ac mae ei bywyd wedi newid yn llwyr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae byrddau iechyd wedi derbyn rhagor o gyllid er mwyn delio â sgil effeithiau hir dymor Covid-19.
Roedd Sian Griffiths, 46 yn gweithio fel ffysiotherapydd mewn ysbyty yn y gogledd pan ddaliodd yr haint ac er yn wynebu symptomau digon arferol i ddechrau, mae hi dal i ddioddef.
“I ddechrau doeddwni ddim yn rhy ddrwg ond ar ôl tua pythefnos oni’n meddwl bod calon fi’n mynd yn rhy uchel wrth fynd fyny grisiau," meddai.
“Oni’n ben ysgafn a ddim yn medru cerdded.
“Dwi’n byw rhyw 5 munud rownd y gornel o mam a dad ac oni’n stryglo cerdded 5 munud."

Mae Sian yn dal i ddioddef â'r symptomau hynny hefyd ac wedi derbyn diagnosis o Syndrome POTS sy’n effeithio ar y galon.
“Dwi’n cael episodic migraines a dwi’n pre diabetic hefyd," meddai.
Er mwyn delio â'i symptomau mae Sian wedi trio pob math o driniaethau sy’n cynnwys nofio gwyllt ond yr ergyd fwyaf iddi meddai oedd rhoi gorau i’w swydd.
“Natho nhw ddeud bod rhaid i fi gael ill health retirement ers 2023," meddai.
“Mae’n ofndawy a siomedig.. dwi’n flin.
“Dwi di cal fy magu i weithio a talu biliau [a rwan dwi methu]."
Mae’n disgrifio’r cymorth gan ei theulu fel peth amhrisadwy ac yn dweud bod ei mam a’i thad bellach yn math o ofalwyr iddi.

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru y gred yw bod tua 94,000 yn dioddef o Covid hir yng Nghymru.
Tra bod cymorth ar gael drwy fyrddau iechyd mae dealltwriaeth o’r salwch yn parhau yn annelwig a Sian felly yn galw am fwy o fuddsoddiad.
“Mae’r Llywodraeth yn dweud mae nhw wedi rhoi pres i mewn i gynllun Adferiad, ond ‘di hynny ddim jest i long covid mae o i bethau eriall hefyd," meddai Sian.
Mae Sian bellach yn talu’n breifat i weld ymgynghorydd dros y ffin yn Ysbyty Stoke ac yn dweud bod hi’n adnabod unigolion eraill sy’n gwneud hynny hefyd.
“Mae bywyd wedi newid o 2020 i rwan...”
“Mae’n hollol hollol wahanol, dwi wedi colli swydd a ddim yn medru gwneud be dwi eisiau gwneud."
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw wedi cynyddu cyllid byrddau iechyd ar draws Cymru i ddelio â sgil effeithiau hir dymor Covid-19.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae byrddau iechyd yn darparu cymorth unigol ac wedi’i deilwra i bobl o bob oed sydd â Covid hir trwy Raglen Adferiad.
“Mae’r gwasanaethau aml-broffesiynol a chymunedol wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Effeithiolrwydd Clinigol.
"Gellir cael mynediad at y rhain drwy hunanatgyfeirio mewn rhai byrddau iechyd neu drwy leoliadau gofal sylfaenol.”