Gwleidyddion a dylanwadwyr yn 'cyfrannu at atgasedd tuag at ferched ar-lein'
Mae chwech o bob 10 o bobl ifanc yn y Deyrnas Unedig o’r farn bod ffigyrau gwleidyddol fel Arlywydd America Donald Trump wedi cyfrannu at gynnydd yn y defnydd o iaith fisogynistaidd ar-lein.
Yn ôl gwaith ymchwil diweddaraf Amnesty International, mae diwylliant “tocsig” ymhlith dynion yn golygu bod menywod yn dewis peidio â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol bellach.
Dywedodd Chiara Capraro o’r elusen bod cwmnïau yn blaenoriaethu elw yn hytrach na diogelwch menywod a bod hynny’n cael “effaith mawr ar brofiad pobl ifanc ar-lein.”
Fe gafodd 3,024 o bobl ifanc rhwng 16-25 eu holi fel rhan o arolwg barn yr elusen.
Dywedodd hanner y dynion ifanc mai’r dylanwadwr Andrew Tate oedd yn gyfrifol am dwf mewn agweddau misogynistaidd ar-lein.
Roedd 58% o fenywod ifanc o’r gred mai Donald Trump oedd ar fai.
Fe ddywedodd 61% o bobl eu bod nhw’n teimlo bod ‘na fwy o atgasedd tuag at ferched a menywod ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgil yr hyn mae ffigyrau gwleidyddol yn eu dweud yn gyhoeddus.
Dywedodd 35% o bobl ifanc eu bod nhw'n gredu bod y biliwnydd Elon Musk wedi cyfrannu at gynnydd yn y fath yma o atgasedd.
Dywedodd un o bob pump o’r merched a gafodd eu holi eu bod nhw bellach ddim yn defnyddio rhai apiau wedi iddyn nhw brofi atgasedd.
Roedd 40% wedi profi atgasedd o’r fath ar X (Twitter gynt), 30% ar TikTok a 30% ar Instagram.
Llun: Wochit