Cwest yn clywed fod cyn-athro wedi marw mewn llifogydd yn Nyffryn Conwy
Mae cwest wedi clywed sut y cafodd athro oedd wedi ymddeol ei ddal gan ddŵr oedd yn llifo'n sydyn yn ystod Storm Bert cyn ei farwolaeth.
Bu farw Brian Perry, 75 oed, yn Nyffryn Conwy ar 23 Tachwedd y llynedd.
Cafodd ymdrech achub ei lansio a'i gohirio pan aeth amodau'n rhy beryglus dros nos a daethpwyd o hyd i gorff Mr Perry dan ddŵr y diwrnod canlynol.
Mewn datganiad a ddarllenwyd yn y gwrandawiad yn Rhuthun ddydd Iau, dywedodd ei wraig Catherine eu bod wedi bod yn aros gyda’i chwaer yn Nhrefriw, ger Llanrwst, a bod ei gŵr wedi mynd â’u ci am dro.
Aeth Mrs Perry i chwilio amdano ac fe welodd ddyn yn cerdded drwy ddŵr.
Gwaeddodd arno gan feddwl ei bod wedi clywed sŵn ganddo, ond pan fethodd â chael ymateb fe alwodd am gymorth gan y gwasanaethau brys.
Daeth heddwas o hyd i gorff Mr Perry mewn dŵr dwfn, a chadarnhaodd archwiliad post-mortem ei fod wedi boddi.
Roedd y cwpl yn byw yng Nghaerffili, a dywedodd Mrs Perry fod ei gŵr, oedd yn arfer dysgu dylunio a thechnoleg, yn ffit ac yn weithgar cyn ei farwolaeth.
Wrth gofnodi marwolaeth ddamweiniol dywedodd John Gittins, uwch grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru: "Ar ôl mynd â'r ci am dro, roedd cyflymder y storm a'r llifogydd wedi ei lethu yn rhywbeth na allai ddianc ohono."
Rhoddodd deyrnged i'r gymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod y chwilio a'u cymorth i deulu Mr Perry a oedd, meddai, yn dangos cymaint oedd eu gofal ohonynt ar y pryd.