Mwy o ymwelwyr i atyniadau twristiaeth ond 'heriau'n parhau'
Mae canran y bobl sy’n ymweld ag atyniadau twristiaeth yn y Deyrnas Unedig ar gynnydd – ond mae heriau'n parhau o hyd ers y pandemig Covid-19.
Yn ôl gwaith ymchwil gan y corff Association of Leading Visitor Attractions ('Alva'), roedd nifer y bobl a wnaeth ymweld ag atyniad twristiaeth yn y DU wedi codi 3.4% yn 2024.
Fe gododd y ffigwr o 151.2 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn yn y 12 mis blaenorol i 157.2 miliwn y llynedd, meddai’r corff.
O’r 400 o lefydd mwyaf poblogaidd i ymweld â nhw yn y DU, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan oedd ar frig y rhestr ar gyfer atyniadau Cymru.
Roedd 600,000 o bobl wedi ymweld â’r amgueddfa yng Nghaerdydd y llynedd.
'Colli swyddi'
Ond mae’r corff sy’n mesur lefelau twristiaeth wedi rhybuddio bod atyniadau o’r fath yn parhau i wynebu heriau, er y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
Mae’r ffigyrau cenedlaethol o’r llynedd yn parhau i fod 8.8% yn is o gymharu â nifer y twristiaid yn y flwyddyn cyn y pandemig.
Roedd 169.7 miliwn o bobl wedi ymweld ag atyniadau twristiaeth yn y DU yn 2019.
Dywedodd cyfarwyddwr Alva, Bernard Donoghue, y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i godi’r isafswm cyflog a chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr (‘Nics’) yn creu mwy o heriau i’r sector.
Fe fyddai’r newidiadau yn cael effaith uniongyrchol ar enillion nifer o sefydliadau, ac mi fydd hynny’n cael effaith ar eu cynlluniau o ran buddsoddi at y dyfodol hefyd, meddai.
“I rai, bydd y costau yma’n golygu toriadau a cholli swyddi.”
Pa atyniadau sydd fwyaf poblogaidd?
Yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain oedd atyniad mwyaf poblogaidd y DU am yr ail dro yn olynol gyda 6.5 miliwn o ymwelwyr y llynedd.
Yn yr Alban, Amgueddfa Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin oedd y mwyaf poblogaidd gyda 2.3 miliwn o ymwelwyr.
Ac amgueddfa Titanic Belfast oedd y mwyaf poblogaidd yng Ngogledd Iwerddon gyda bron i 900,000 o ymwelwyr.