Cyn-brif weithredwr yr SNP Peter Murrell wedi ymddangos mewn llys
Mae cyn-brif weithredwr yr SNP Peter Murrell wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o dwyll ariannol.
Cafodd Mr Murrell ei arestio yn 2023 mewn perthynas ag ymchwiliad heddlu i gyllid yr SNP.
Yn ddiweddarach cafodd ei ail-arestio a'i gyhuddo mewn cysylltiad â thwyll ariannol honedig o gronfa'r blaid.
Cafodd ei gyhuddo o dwyll ariannol (embezzlement) pan ymddangosodd yn Llys Siryf Caeredin ddydd Iau.
Ni wnaeth bledio ac fe'i traddodwyd i gael archwiliad pellach a chaniatawyd mechnïaeth.
Mae wedi gwahanu oddi wrth y cyn-brif weinidog Nicola Sturgeon, a gyhoeddodd yn gynharach eleni fod y cwpl wedi “penderfynu dod â’u priodas i ben”.
Fe gadarnhaodd Heddlu’r Alban ddydd Iau nad oedd Nicola Sturgeon bellach dan amheuaeth yn Dilyn ymchwiliadau i gyllid yr SNP.
Ychwanegodd y llu nad oedd cyn-drysorydd y blaid Colin Beattie dan ymchwiliad bellach chwaith.
Llun: Wikimedia Commons