Eddie Jordan, un o gewri byd Formula 1, wedi marw'n 76 oed
Mae Eddie Jordan, un o gewri byd ceir rasio Formula 1, wedi marw yn 76 oed.
Bu farw’r Gwyddel ar ôl dioddef o ganser y prostad.
Roedd Jordan yn enwog am fod yn berchennog ar dîm Jordan Grand Prix yn y 1990au a blynyddoedd cynnar y ganrif hon.
Roedd tîm Jordan Grand Prix yn gyfrifol am roi cyfle cyntaf yn y gamp i ddau bencampwr y byd, Michael Schumacher a Damon Hill.
Yn ddiweddarach fe ddaeth yn sylwebydd adnabyddus ar y gamp gyda'r BBC a Channel 4, ac yn entrepreneur.
Yn fwy diweddar, fe ddaeth noddwr ar Glwb Rygbi Gwyddelod Llundain.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu y bu iddo farw yn “heddychlon a gyda’ deulu o’i gwmpas” yn Cape Town yn ystod oriau man fore Iau.
“Roedd Eddie a Jordan Grand Prix yn enwog am eu delwedd roc a rôl, gan ddod a hwyl a chyffro i F1, yn ogystal â pherfformio yn well na’r disgwyl yn gyson.
“Daeth EJ a digonedd o egni a charisma Gwyddelig i bobman yr aeth. Mae ei absenoldeb yn gadael twll anferthol yn ein bywydau.”
Llun: Eddie Jordan (Imago images)