Newyddion S4C

Dros £33 miliwn i wella diogelwch tomenni glo Cymru

Pwll Glo Pendyrus

Mae dros £33 miliwn wedi cael ei glustnodi i wella diogelwch tomenni glo ar draws Cymru.

Daw'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Iau fel rhan o Gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo.

Fis Tachwedd roedd tirlithriadau mewn sawl ardal yng Nghymru, a hynny o ganlyniad i Storm Bert.

Yng Nghwmtyleri roedd tirlithriad categori D, oedd â’r mwyaf o beryg o effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ar y pryd y byddai'r llywodraeth yn rhoi arian tuag at ddiogelu tomennydd glo'r wlad.

Bydd 10 awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith ar safleoedd, gan gynnwys Cwmtyleri a Phendyrys, lle welwyd lefelau digynsail o law yn disgyn yn 2020 a achosodd tirlithriad.

Dyma sut fydd yr arian yn cael eu dosbarthu rhwng y siroedd a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC):

  • Blaenau Gwent: £1,997,100.00
  • Pen-y-bont ar Ogwr: £1,835,000.00
  • Caerffili: £2,780,445.16
  • Caerdydd: £110,000.00
  • Merthyr TudfulL £4,279,287.00
  • Mynwy: £16,157.00
  • Castell-nedd Port Talbot: £6,345,000.00
  • CNC: £2,298,739.00
  • Rhondda Cynon Taf: £11,493,605.00
  • Torfaen: £1,982,521.00
  • Wrecsam: £823,928.93

'Cynydd sylweddol'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford bod y "cynnydd sylweddol" mewn buddsoddiad yn dangos "ymrwymiad y llywodraeth" i amddiffyn cymunedau.

"Rwy'n falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £34 miliwn i gefnogi 10 awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith hanfodol ar draws 130 o domenni glo ledled Cymru.

"Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'n buddsoddiad blaenorol o £19.2 miliwn yn 2024-2025, ac yn nodi'r gwariant blynyddol uchaf ar ddiogelwch tomenni glo yr ydym erioed wedi ymrwymo iddo.

"O'i gyfuno â'r buddsoddiad o £25 miliwn gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref, byddwn wedi neilltuo dros £100 miliwn i ddiogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon - gan ddangos ein hymrwymiad i amddiffyn cymunedau a mynd i'r afael â'r her seilwaith hanfodol hon."

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, : "Mae'r Llywodraeth hon yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i ddiogelu ein cymunedau.

"Ar ôl ymweld â thrigolion sy'n byw ger y safleoedd hyn a chlywed eu pryderon o lygad y ffynnon, rwy'n falch o gyhoeddi'r lefel ddigynsail hon o gyllid, buddsoddiad a fydd yn sicrhau gwelliannau diogelwch credadwy i'r cymunedau hyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.