Triniaeth pobl anabl ar drafnidiaeth gyhoeddus 'yn embaras cenedlaethol'
Mae “bwlch sylweddol” yn bodoli rhwng hawliau defnyddwyr trafnidiaeth anabl a’u profiad bob dydd, meddai Aelodau Seneddol yn San Steffan.
Mae adroddiad gan Bwyllgor Dethol Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin yn dangos bod “baich gormodol" yn cael ei roi ar bobl anabl unigol i ddwyn gweithredwyr ac awdurdodau i gyfrif am beidio â chyflawni eu dyletswyddau.
Disgrifiodd y pwyllgor broses o orfodi rheolau hygyrchedd fel rhywbeth “rhy gymhleth a thameidiog”.
Dywedodd Ruth Cadbury, sy’n cadeirio’r pwyllgor, fod y mater yn “ffynhonnell embaras cenedlaethol”.
Cafodd pwyllgor wybod am achosion o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn cael eu gadael ar awyrennau, gyrwyr tacsis yn gwrthod lifftiau i bobl oherwydd bod ganddynt gi cymorth, ac eitemau ar y stryd yn achosi rhwystrau.
Dywedodd pobl ag anableddau anweladwy fel awtistiaeth, dementia a phryder difrifol nad oedden nhw eisiau teithio oherwydd dibynadwyedd gwael a diffyg cymorth.
Dywedodd yr adroddiad bod y dystiolaeth gan bobl anabl yn dangos fod “bwlch sylweddol iawn o hyd rhwng yr hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n bodoli mewn theori, a phrofiad dyddiol pobl sy’n dibynnu ar balmentydd, bysiau, tacsis, trenau ac awyrennau i gyrraedd y gwaith, i gael mynediad at wasanaethau, neu ar gyfer hamdden.”
Gwnaeth y pwyllgor gyfres o argymhellion, gan gynnwys y dylai Llywodraeth y DU lunio strategaeth trafnidiaeth gynhwysol newydd o fewn 12 mis.
'Methiannau'
Dywedodd Cadbury ei fod yn “embaras cenedlaethol bod gwasanaethau trafnidiaeth ein gwlad yn trin pobl anabl fel dinasyddion eilradd.”
Ychwanegodd ei fod yn “atal mynediad iddynt at swyddi, hamdden, rhwydweithiau cymorth a gwasanaethau hanfodol – gan wadu eu hawliau.”
“Hyd yn oed pan fydd cwynion yn cael eu datrys, nid yw gwersi’n cael eu dysgu, nid yw newidiadau’n cael eu rhoi ar waith, ac mae’n demtasiwn meddwl bod y cosbau bach ac achlysurol am fethiant yn cael eu derbyn gan ddarparwyr fel cost gwneud busnes yn unig.”
“Rhaid i fethiannau fynd o fod yn ddigwyddiad bob dydd i fod yn ddiflanedig o brin,” meddai.
Dywedodd gweinidog trafnidiaeth lleol y DU, Simon Lightwood: “Mae’n amlwg bod hygyrchedd wedi bod yn ôl-ystyriaeth wrth ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth ac mae mwy i’w wneud i sicrhau bod pawb yn gallu teithio’n rhwydd a gydag urddas.
“Dyna pam mae gennym ni uchelgeisiau clir ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth sy’n gweithio i bawb ac sydd eisoes wedi gweithio’n gyflym i roi hygyrchedd wrth galon ein diwygiadau bysiau a threnau”
Aeth ymlaen i ddweud eu bod am “barhau â gwaith i wneud cannoedd o orsafoedd trên yn rhydd o risiau, a lansiodd grŵp arbenigol hedfan hygyrch.”
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl anabl, i’n helpu i ddatblygu ein polisïau, a byddwn yn ystyried yr argymhellion hyn yn ofalus ac yn ymateb cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd llefarydd ar ran Rail Delivery Group: “Rydym eisiau i bawb deimlo’n hyderus wrth deithio ar y rheilffordd ac rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ar draws y rhwydwaith.”
“Er bod gwelliannau wedi'u gwneud, rydym yn cydnabod bod yn rhaid gwneud mwy i sicrhau profiad cyson a chynhwysol i bob teithiwr.”