Gwyddonwyr o Gymru i astudio pam fod rhewlif Everest yn toddi
Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn paratoi ar gyfer taith i Everest yn Nepal fis nesaf i ddarganfod pam fod y rhew ar un o rewlifoedd mwyaf eiconig y mynydd yn toddi.
Bydd y gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Leeds yn teithio i’r Cwm Gorllewinol, lle maent yn credu bod ymbelydredd dwys o’r haul yn toddi’r eira - hyd yn oed pan fo tymheredd yr aer o dan y rhewbwynt.
Wrth i’r dŵr tawdd (wedi’i doddi) ail-rewi, gall gynhesu’r eira o sawl gradd, gan greu rhewlif sy’n llawer agosach at y pwynt toddi nag oedd pobl yn ei sylweddoli gynt.
Os ydy’r ymchwilwyr yn gywir, gall hon fod yn broses sydd hefyd yn digwydd ar rewlifoedd eraill ar draws yr Himalaya, lle mae’r dŵr tawdd yn cynnal miliynau lawer o bobl islaw.
Daw’r prosiect newydd yn sgil canfyddiadau blaenorol yr ymchwilwyr, a ddangosodd fod tymheredd yr iâ yn rhannau isaf Rhewlif Khumbu yn gynhesach na'r disgwyl o ystyried tymheredd yr aer lleol.
Ar ôl cyrraedd y rhewlif, bydd y tîm yn gwersylla ar rew, lle mae’r tymheredd dros nos yn gostwng i fod yn is na -10°C.
Dealltwriaeth
Maent yn gobeithio y bydd eu gwaith yn rhoi dealltwriaeth newydd o brosesau a newidiadau sy'n berthnasol i rewlifoedd mewn lleoliadau tebyg ledled y byd.
Dywedodd yr Athro Bryn Hubbard o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth y bydd y mesuriadau tymheredd yn “gwella modelau cyfrifiadurol a ddefnyddir i ragfynegi newidiadau yn y dyfodol ym maint y rhewlifoedd a’r cyflenwad dŵr”.
Mae rhewlifoedd ym mynyddoedd uchaf y blaned yn ffynhonnell hynod bwysig o ddŵr, gyda miliynau o bobl - gan gynnwys llawer yn Nepal, Bhutan, India, Pacistan ac Afghanistan - yn dibynnu ar ddŵr sy’n rhedeg i lawr o’r Himalaya.
Ychwanegodd yr Athro Bryn Hubbard bod yr ymchwil yn “arbennig o bwysig i’r ardal hon sydd â phoblogaeth fawr a lle mae dŵr yn brin”.
Dywedodd yr Athro Duncan Quincey o Ysgol Daearyddiaeth Prifysgol Leeds, sy’n arwain y tîm, mai hon fydd y daith “fwyaf heriol yn gorfforol ac yn logistaidd i mi fod yn rhan ohoni erioed”.
Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac mae’n gydweithrediad rhwng academyddion o Brifysgol Leeds, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bergen (Norwy) a Phrifysgol Uppsala (Sweden).