Taith 'emosiynol' menyw o Bontypridd i Wcráin i ddosbarthu cymorth dyngarol
Taith 'emosiynol' menyw o Bontypridd i Wcráin i ddosbarthu cymorth dyngarol
Mae grŵp o wirfoddolwyr o Gymru wedi bod yn darparu cymorth dyngarol i gymunedau sydd yn byw dan gysgod y rhyfel yn Wcráin.
Wrth siarad â Newyddion S4C wedi iddi ddychwelyd i Gymru, dywedodd Charlotte Moore o Bontypridd ei bod hi'n daith heriol o Gymru i ffin Wcráin gyda Gwlad Pwyl.
Mae hi'n un o’r gwirfoddolwyr yn y grŵp Cardiff for Ukraine.
"Mae wedi bod yn emosiynol iawn yn ymweld ag ysbytai a gweld y boen a dioddefaint pobl Wcráin," meddai.
"Ond roedd gweld y bobl yr oeddem wedi dod i’w helpu yn gwneud i bob milltir fod yn werth chweil."
Mae Cardiff for Ukraine' yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy'n rhoi rhoddion i bobl Wcráin, a nwyddau i helpu Wcrainiaid sy'n cyrraedd Caerdydd.
Cafodd y grŵp ei sefydlu ar ddechrau’r rhyfel yn Wcráin.
I’r criw, roedd hi'n daith hir – hyd at 16 awr ar y ffordd. Ar ôl cyrraedd eu cyrchfan, bu'r gwirfoddolwyr yn cydweithio ag elusennau lleol ac ysbytai i rannu’r nwyddau a gafodd eu casglu yng Nghymru.
Maen nhw'n cario amrwyiaeth o nwyddau o ddeunydd meddygol, cadeiriau olwyn, cymhorthion cerdded, a bwyd anifeiliaid.
Gyda'r gaeaf ar y ffordd mae eu faniau hefyd yn llawn dillad gaeaf, blancedi a hyd yn oed llifiau cadwyn (chainsaws).
"Byddwn yn ymweld ag ysbytai, canolfannau ffoaduriaid, ysbytai, lle bynnag y mae angen y cymorth, gallwn ei ddosbarthu," meddai.
Dywedodd Charlotte Moore ei bod hi wedi dechrau gwirfoddoli gyda'r ymgyrch ar gyfer Wcráin, ar ôl gweld effaith ymosodiadau Rwsia ar y newyddion.
Ac mae hi'n falch iddi gael y cyfle i helpu.
"Slava Ukraine! Heroyam Slava!" meddai Charlotte. "Diolch i Bontypridd a phawb sydd wedi rhoi, a pob un o'n gwirfoddolwyr o Bontypridd sydd wedi sicrhau ein bod ni wedi gallu helpu ein ffrindiau yn Wcráin sydd ar y linell flaen.
"Rydyn ni'n dal i ofyn am roddion i'w hanfon draw at Wcráin, yn enwedig nawr wrth edrych 'mlaen at y gaeaf."