‘Bachgen annwyl’: teyrnged i ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân
Mae teulu dyn 25 oed o Gwmbrân a fu farw mewn gwrthdrawiad wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Jordan Thomas wedi gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys beic modur ar Ffordd Cwmbrân tua 13:50 ddydd Sul 16 Mawrth.
Dywedodd ei deulu bod pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu.
“Ddydd Sul 16 Mawrth newidiodd ein bywydau am byth pan wnaethom golli ein mab prydferth, Jordan Thomas.”
“Roedd Jordan yn frawd, ewythr, dyweddi a ffrind annwyl a fydd pawb yn ei golli.
"Rydyn ni fel teulu wedi ein llethu gan y gefnogaeth a ddangoswyd a'r geiriau caredig lawer sydd wedi'u rhannu gan bobl a oedd yn adnabod ein bachgen annwyl, Jordan.
"Yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn, rydym yn gofyn yn garedig am amser i brosesu a galaru'r hyn sydd wedi digwydd i'n bachgen hyfryd, Jordan Thomas."
Mae ei berthnasau agosaf yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng perthnasol ar ddyddiad y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 neu anfon neges dros eu cyfryngau cymdeithasol gan ddyfynnu 2500083512.