Newyddion S4C

Pryder yng Nghymru wedi i Trump atal cymorth i Lesotho

Newyddion S4C
Dolen Cymru yn Lesotho

“Y wlad does neb wedi clywed amdani,” dyna ddisgrifiad Donald Trump o’r wlad fechan Lesotho ar gyfandir Affrica.

Wrth ddathlu pedwar degawd o gyswllt rhwng Cymru a Lesotho mae elusen Dolen Cymru yn rhybuddio fod penderfyniad yr Unol Daleithiau i atal cymorth tramor eisoes i’w deimlo yno.

“Mae wedi effeithio yn andwyol arnyn nhw,” meddai Gareth Morgans, un o ymddiriedolwyr Dolen Cymru.

“Mae rhwng mil pum cant a phedair mil o weithwyr iechyd yn gweithio yno yn ddi-dâl oherwydd bod America wedi tynnu’r arian yna nol.” 

Sbardun yr efeillio rhwng y ddwy wlad oedd y newyn mawr yn Ethiopia yn 1984, a Dr Carl Clowes a Dr Gwynfor Evans ymhlith rheini oedd yn rhan o’r sefydlu.

“Mae'r berthynas wedi esblygu dros y degawdau ac mae gyda ni bartneriaethau cadarn iawn rhwng nifer o ysgolion yng Nghymru a Lesotho, mae 'na nifer o bartneriaethau iechyd, sydd yn helpu yn y ddwy wlad,” eglura Mr Morgans.

Image
Gareth Morgans, un o ymddiriedolwyr Dolen Cymru
Gareth Morgans, un o ymddiriedolwyr Dolen Cymru

“Ni’n gobeithio bydd yr elusen yn parhau am flynyddoedd eto i ddod, a bydd pobl Cymru a Lesotho yn elwa o’r berthynas o hyd, ond mae’n mynd yn anoddach i ni fel elusen i ffindio arian oherwydd penderfyniadau fel gan America.”

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu i nodi’r deugain mlynedd, gan gynnwys ymweliad gan y Y Tywysog Seeiso o Lesotho i Gymru.

“Mae’r berthynas rhwng y ddwy wlad a rhwng y bobl yn un gwerthfawr iawn,” meddai’r Tywysog.

“Dros y blynyddoedd mae Cymry wedi dod draw i Lesotho i ymweld, a phobl o Lesotho wedi dod draw yma i Gymru.”

“O’r mynyddoedd i’r canu mae cymaint yn gyffredin rhwng y ddwy wlad a’i phobl.”

Mae addysg yn rhan ganolog o’r elusen a nifer o ddisgyblion wedi cael y cyfle i deithio i Lesotho dros y blynyddoedd.

Image
 Y Tywysog Seeiso o Lesotho
 Y Tywysog Seeiso o Lesotho

Wedi ymweld â Lesotho am yr eildro yn ddiweddar, mae Catrin Thomas, sy’n athrawes yn Ysgol Bro Preseli, yn ymwybodol iawn o werth y cysylltiad rhwng y ddwy wlad.

"Dwi'n credu bod y gwaith mae Dolen Cymru wedi'i gychwyn deugain mlynedd yn ôl yn anhygoel,"meddai.

"Mae e mor ddiddorol - mae ein hanthem genedlaethol ni yn dechrau gyda 'Mae hen wlad fy nhadau', a'u hanthem genedlaethol nhw!

“Ma’n gwerthoedd ni ym Mro Preseli yn go syml i ddweud y gwir, caredigrwydd, cyfrifoldeb a Chymreictod, a’u gwerthoedd nhw yn debyg iawn lle ma’ ‘na ethos o gynhwysiant a chariad at eu hiaith aui diwylliant.”

I’r disgyblion roedd y daith yn brofiad i’w drysori.

"Fi'n credu bydd e'n rhywbeth ni wir yn gwerthfawrogi a chadw adeiladu eto dros y flynydde' i ddod," meddai Gwen

Ychwanegodd Delme: "Wedd e'n gwych, we'n nhw'n arddangos dawnsio nhw a we' ni'n dangos dawnsio gwerin ni. Wedd yr awyrgylch jyst yn anhygoel."

"Mae'r teimlad o gymdeithas allan 'na mor gryf, ar y diwrnod cyntaf o'n i'n teimlo mor groesawgar o'dd e'n teimlo fel cartref newydd, o'dd bob un jyst mor garedig," dywedodd Manon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.