Newyddion S4C

Pryder y bydd tai newydd Pwllheli rhy ddrud i brynwyr lleol

Pwllheli A499

Mae yna bryder y bydd prisiau tai mewn datblygiad newydd ar gyrion Pwllheli y tu hwnt i gyrraedd pobl leol.

Yr wythnos nesaf bydd cynghorwyr Gwynedd yn trafod dau gais cynllunio i adeiladu 36 o dai ger Ffordd Caernarfon (yr A499), yn agos i archfarchnad newydd Aldi yn y dref.

Ond mae swyddogion uned iaith y cyngor wedi mynegi pryder y bydd prisiau'r tai (tua £230,000 ar gyfartaledd) yn rhy ddrud i nifer o drigolion y cylch, ac felly'n cael effaith ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal - er bod y datblygwyr yn dadlau mai "niwtral" fyddai'r effaith ar yr iaith.

"Mae'n anodd cytuno gyda’r awgrym y bydd y datblygiadau dan sylw yn sicrhau prynwyr lleol," meddai'r uned iaith.

Maen nhw'n ychwanegu fod  y datblygwyr "yn datgan nad oes modd rhagweld faint o’r darpar breswylwyr sydd yn mynd i fod yn siaradwyr Cymraeg, wrth honni ar yr un pryd bod disgwyliad y bydd canran tebyg yn symud i'r datblygiad ac sydd yna o siaradwyr Cymraeg yn y sir.

"Gan ystyried bod amcan bris y tai arfaethedig yn £230,000, a chyfran uchel o’r boblogaeth wedi’u prisio allan o’r farchnad agored, anodd ydi cytuno gyda’r asesiad ‘Niwtral’ yn yr achos yma," meddai'r uned iaith.

Maen nhw'n dweud: "... nid yw’r ymgeisydd wedi ystyried yn llawn natur cyflogaeth a chyflogau’r ardal hon."

Ond mae swyddogion cynllunio'r cyngor yn argymell y dylai'r datblygiadau gael caniatâd cynllunio amlinellol. Bydd cynghorwyr yn trafod y cais ddydd Llun.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.