Tanau gwyllt yn dal i losgi wedi noson brysur i ddifoddwyr ledled Cymru
Tanau gwyllt yn dal i losgi wedi noson brysur i ddifoddwyr ledled Cymru
Cafodd diffoddwyr tân ledled Cymru noson brysur yn ymladd sawl tân gwyllt nos Fawrth.
A bu'n rhaid cau ffordd yr A470 am gyfnod ddydd Mercher wrth i ddiffodwyr ymladd tân ger Rhaeadr. Mae'r fflamau wedi ymledu dros 50 hectar o redyn a choedwig.
Mae'r ffordd bellach wedi ail-agor, ond mae gyrwyr wedi cael rhybudd i fod yn ofalus oherwydd mwg trwchus yn yr ardal.
Roedd y tân mwyaf dros nos wedi llosgi ardal 20 hectar o eithin ar Fynydd Gelliwastad, Clydach, ac yn weladwy o ffordd yr M4.
Cafodd tri chriw o Wasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin, o Dreforys, Pontardawe a Chastell-nedd, eu galw yno.
Cafodd y tân ei ddiffodd erbyn 23.12.
Mae lluniau camera, a gafodd eu ffilmio yn Nhreforys, Abertawe, yn dangos fflamau a mwg oedd yn weladwy o bellter sylweddol.
Dywedodd Claire Kempster, o Graig-cefn-parc, ger Clydach, fod sawl tân gwyllt wedi bod yn yr ardal dros yr wythnos ddiwethaf.
“Fe ddigwyddodd y llynedd hefyd. Maen nhw’n rheoli tir ar y llwyni eithin," meddai.
Ychwanegodd fod un tân wythnos diwethaf wedi dod yn agos at eu tŷ.
“Mae yna ryw bedwar tŷ uwch lan ein pennau, ac fe ddaeth y tân reit at eu ffin, felly mae’n debyg bod hwnnw tua 300 metr o’n tŷ ni,” meddai.
“Fe wnaeth y diffoddwyr tân lwyddo i’w roi allan yn sydyn iawn.”
Roedd tanau gwair eraill yn ne Cymru, ar fynydd Maerdy, Caerffili, Cwm Ogwr, Gelli Pentre a Chomin Fairwood Abertawe.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru “ei fod yn ddi-stop”.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd eu bod wedi delio â thân eithin nos Fawrth, gan gynnwys un mawr yn Garreg Fawr yn Llanfairfechan, a gafodd ei adael i losgi allan.
Llun: Tân yn Ngraig-cefn-parc, ger Clydach (Claire Kempster)