Y Lolfa yn agor ail swyddfa yng Nghaernarfon wedi 60 mlynedd yng Ngheredigion
Ar ôl bron i 60 o flynyddoedd yn Nhalybont, Ceredigion mae gwasg y Lolfa wedi agor ail swyddfa yng Nghaernarfon yng Ngwynedd.
Mae’r swyddfa newydd ar Stryd y Plas y dref, uwchben Palas Print a Loti & Wren.
Dywedodd Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa nad oedd “yn gyfnod hawdd yn economaidd i’r byd cyhoeddi”.
Ond daw’r swyddfa newydd wedi i staff y wasg yn y gogledd ehangu.
Yn eu plith mae Teleri Jones o Amlwch, sy'n gweithredu fel Golygydd Plant a Phobl Ifanc ar ôl treulio cyfnod fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Syr Thomas Jones, a Cedron Sion o Borthmadog sydd wedi ymuno fel Golygydd Creadigol ar ôl gweithio fel cyfieithydd ac fel actor.
Bydd prif swyddfa'r cwmni yn Nhalybont yn parhau i gartrefu gweddill y golygyddion Cymraeg a Saesneg, y staff gweinyddol a'r adran argraffu.
"Nid yw'n gyfnod hawdd yn economaidd ar y byd cyhoeddi ond mae hyn yn dangos ein hymrwymiad hir dymor i'r gwaith o gyhoeddi ac argraffu llyfrau gwreiddiol a bywiog yn Gymraeg,” meddai Garmon Gruffudd.
“Mae ein llwyddiant wastad wedi dibynnu ar ansawdd uchel ein staff ac mae agor ein swyddfa newydd wedi ein galluogi i ddenu staff ifanc, galluog a fydd yn parhau a chryfhau'r llwyddiant yna."
Dywedodd Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi'r wasg nad oes “tre yng Nghymru â thraddodiad cyfoethocach o gyhoeddi poblogaidd Cymraeg”.
“Rydym yn falch o allu cyfrannu at gadw'r traddodiad yna'n fyw,” meddai.
“Mae’r swyddfa newydd yng nghanol Caernarfon yn rhoi canolbwynt i’n staff yn y gogledd ac hefyd yn dod â'n gwasanaeth argraffu'n agosach at ein cwsmeriaid yng Ngwynedd."