Un person yng Nghymru yn rhan o ymchwiliad i gysylltiad rhwng pwdinau a marwolaethau
Mae un person yng Nghymru yn rhan o ymchwiliad gan awdurdodau iechyd y DU i ymlediad bacteria sydd o bosib wedi dod o bwdinau.
Mae tri o’r pump o bobl sydd yn rhan o ymchwiliad i ymlediad y bacteria Listeria wedi marw.
Roedd un yng Nghymru, dau yn Swydd Efrog a Humber, un yng Ngogledd Orllewin Lloegr, ac un arall yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Roedden nhw rhwng 68 a 89 oed, medden nhw.
Dioddefodd y pum person listeria rhwng mis Mai a mis Rhagfyr y llynedd, mewn achosion sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth iechyd a chartrefi gofal.
Mae marwolaeth un o'r bobl a fu farw wedi'i phriodoli i listeria, ac roedd y ddau arall wedi'u heintio â listeria ar adeg eu marwolaeth.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU bod eu hymchwil yn awgrymu bod y straen i’w gael mewn math penodol o bwdin, Cool Delight Desserts.
Mae asiantaeth newyddion PA ar ddeall bod faint o listeria sydd yn y pwdin yn is na'r trothwy cyfreithiol o'r hyn y gall pobl iach ei oddef.
Ond oherwydd bod y pwdin ar gael i ysbytai a chartrefi gofal, lle mae pobl sy’n agored i niwed yn cael gofal a thriniaeth, mae cynnyrch wedi cael ei alw'n ôl.
Dywedodd Dr Gauri Godbole, dirprwy gyfarwyddwr afiechydon gastroberfeddol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU nad oedden nhw eto wedi cadarnhau'r hyn oedd tu cefn i’r achosion.
“Ond mae ein profion mewn labordy wedi adnabod cysylltiad posib gyda math o bwdin sydd ddim ar gael yn y siopau ond sydd ar gael yn rhai o ymddiriedolaethau'r GIG.
“Rydyn ni wedi cynghori rhai o ymddiriedolaethau'r GIG i beidio â chynnig y pwdin tra ein bod ni’n ymchwilio.”