Caergybi: Carcharu dyn am ymosodiad 'ffyrnig' ar bensiynwr yn ei gartref
Mae dyn a ymosododd “yn ffyrnig” ar ddyn 75 oed yn ei gartref wedi’i garcharu.
Fe ymddangosodd Jason Mark Owen o Laingoch, Caergybi yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth wedi iddo eisoes pledio’n euog o achosi niwed corfforol difrifol.
Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a thair mis.
Roedd Owen, sy'n 36 oed, wedi ymosod ar yr hen ddyn ar ôl bygwth trigolion eraill oedd yn byw yn ardal Tan Yr Efail yng Nghaergybi yn gynharach.
Ar 10 Ionawr, aeth Owen ar hyd tai yn yr ardal gan gnocio ar ddrysau a ffenestri pobl gan droi’n dreisgar tuag at rhai trigolion.
Fe agorodd dyn 75 oed ddrws ei dŷ ar ôl clywed yr aflonyddwch, ac ymosododd Owen arno.
Cafodd y pensiynwr ei daro’n anymwybodol a cafodd ei drwyn a’i asgwrn boch eu torri.
Wedyn aeth Owen i mewn i gartre’r dyn, gan ddinistrio dodrefn y tu fewn.
'Effaith difrifol'
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis o Heddlu’r Gogledd y dylai pawb “deimlo’n ddiogel yn eu cartref eu hunain” – a bod Jason Owen wedi bygwth hynny.
Fe gafodd ei ymddygiad “effaith difrifol” ar drigolion yr ardal, meddai.
“Doedd Mr Owen ddim yn edifeiriol… er iddo adael hen ddyn gyda sawl asgwrn wedi’i dorri.
“Rwy’n ddiolchgar i gymdogion dewr y dioddefwr a wnaeth ei helpu.”