Newyddion S4C

Gyrrwr yn pledio'n euog i ladd mam a merch o Gaerffili ar yr M4

19/03/2025
Cheryl Woods a Sarha Smith
Cheryl Woods a Sarha Smith

Mae dyn wedi pledio'n euog i achosi marwolaethau mam a merch o Gaerffili mewn gwrthdrawiad ar yr M4.

Fe wnaeth Firas Zeineddine, 46 oed, ymddangos yn Llys y Goron Swindon ddydd Mercher.

Plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal wedi i Cheryl Woods, 61 oed, a Sarha Smith, 40 oed o Gaerffili gael eu lladd mewn gwrthdrawiad ar 20 Hydref 2023.

Bu farw'r ddwy yn y gwrthdrawiad rhwng cyffordd 17 i Chippenham a chyffordd 18 i Gaerfaddon.

Bydd Zeineddine yn cael ei ddedfrydu ar 28 Ebrill.

Cafodd Zeineddine, sydd yn byw yn Keynsham ger Bryste, ei gyhuddo o ddau achos o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ond fe blediodd yn euog i gyhuddiadau llai.

Dywedodd Edward Culver ar ran yr erlyniad na fyddai'r Goron yn ceisio am achos llys ar ôl derbyn pledion i gyhuddiadau llai gan Zeineddine.

Wrth siarad yn yr achos, dywedodd y Barnwr Jason Taylor KC: "Y realiti ydy bod llawer o'r dystiolaeth yn dod o gar y diffynnydd a'r Tesla oedd yn recordio trwy nifer o gamerâu."

'Annwyl'

Dywedodd teulu Cheryl Woods a Sarha Smith adeg eu marwolaethau eu bod yn bobl oedd bob tro yn helpu eraill.

“Roedd Cheryl Woods yn fam gariadus, mamgu, chwaer a ffrind annwyl. Roedd yn rhoi blaenoriaeth gyson i les ei theulu dros ei lles ei hun, ac ymfalchïai yn ei threftadaeth Gymreig tra’n meithrin cariad dwfn at natur," medden nhw.

“Roedd Sarah, yn dilyn ôl traed ei mam, yn anhunanol.

“Roedd hi nid yn unig yn fam, mamgu, chwaer, modryb a ffrind, ond mae ei habsenoldeb yn gadael gwagle i'r rhai oedd yn dibynnu arni.

“Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei weld trwy ei chwe merch, fydd yn ei chadw yn eu cof am byth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.