Dynion angen esiamplau gwell na dylanwadwyr medd Southgate
Mae Syr Gareth Southgate wedi dweud ei fod yn ofni bod dynion ifanc yn treulio gormod o amser yn gwylio pornograffi, gamblo ac yn chwarae gemau ar y cyfrifiadur.
Wrth draddodi darlith flynyddol y BBC dywedodd hefyd eu bod angen esiamplau gwell i’w hefelychu yn hytrach na dylanwadwyr ar y we.
Yn hytrach na throi at unigolion fel athrawon neu hyfforddwyr chwaraeon y peryg yw bod dynion ifanc yn ceisio chwilio am arweiniad ar y we meddai.
“Maen nhw yn fwriadol yn twyllo dynion ifanc i feddwl bod llwyddiant yn cael ei fesur trwy arian neu oruchafiaeth, mai cryfder yw peidio byth dangos emosiwn a bod y byd, gan gynnwys menywod, yn eu herbyn nhw.”
Ers 1972 mae darlith BBC Richard Dimbleby wedi bod yn cael ei chynnal er cof am y darlledwr. Rhai o’r siaradwyr yn y gorffennol yw Bill Gates a Thywysog Cymru.
Gwytnwch
Dywedodd cyn rheolwr pêl droed Lloegr fod datblygu gwytnwch a hunan gred i ddynion ifanc yn bwysig.
Mae “gormod o ddynion ifanc yn ynysig” meddai ac yn “amharod i siarad neu i ddangos emosiwn”.
Mae hefyd yn credu nad ydyn nhw’n cael digon o gyfleoedd i fethu ac i ddysgu o’u camgymeriadau.
Dywedodd yn ystod y ddarlith bod ei yrfa ei hun fel pêl droediwr a rheolwr wedi dysgu gwersi pwysig iddo.
“Os ydw i wedi dysgu unrhyw beth o fy mywyd yn y byd pêl droed hyn ydy o sef bod llwyddiant yn lot mwy na’r sgôr terfynol. Llwyddiant go iawn yw sut ydych chi yn ymateb yn yr adegau anoddaf.”