Newyddion S4C

Rwsia a Wcráin: Rhyfela'n parhau er i Putin gytuno i atal rhai ymosodiadau

Zelenksy, Trump a Putin

Mae Rwsia a Wcráin wedi cynnal ymosodiadau ar ei gilydd o'r awyr oriau yn unig wedi i Vladimir Putin ddweud y bydd ei wlad yn atal ymosodiadau ar safleoedd ynni Wcráin. 

Cafodd ysbytai a gorsafoedd pŵer eu targedu fel rhan o’r ymosodiadau gan Rwsia yn Wcráin, meddai Arlywydd y wlad, Volodymyr Zelensky. 

Fe gytunodd Putin i atal ymosodiadau ar safleoedd ynni Wcráin ddydd Mawrth yn dilyn galwad ffôn gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Fe wnaeth y Kremlin rhestru nifer o gamau byddai angen eu gweithredu fel rhan o unrhyw broses heddwch. Roedd y rhain yn cynnwys atal pob cymorth milwrol rhyngwladol a chudd-wybodaeth i Wcráin.

Mae cynghreiriaid Wcráin yn Ewrop eisoes wedi gwrthod amodau i’w wneud ag atal cymorth milwrol.   

Yn ôl Zelensky mae Putin yn y bôn wedi gwrthod cadoediad cynhwysfawr yn dilyn ei alwad ffôn gyda Trump.

Oriau yn unig wedi i Putin gytuno i atal ymosodiadau penodol yn Wcráin, roedd ‘na “nifer o ymosodiadau, yn enwedig ar adeiladau sifiliaid” medd Arlywydd Wcráin. 

Fe wnaeth Rwsia lansio dros 40 drôn yn erbyn Wcráin yn yr oriau yn dilyn yr alwad ffôn rhwng Putin a Trump, ychwanegodd. 

Dywedodd gweinidogaeth amddiffyn Rwsia eu bod wedi dinistrio 57 o ddronau Wcráin dros nos. Roedd 35 o’r rheiny yn ardal Kursk.   

Mae disgwyl i swyddogion o’r Unol Daleithiau barhau i drafod dyfodol y rhyfel rhwng Wcráin a Rwsia ddydd Sul yn y Dwyrain Canol.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.