Carcharu dau ddyn o Lerpwl am gyflenwi cyffuriau ym Môn
Mae dau ddyn o Lerpwl wedi cael eu carcharu ar ôl cael eu dal yn cyflenwi cyffuriau ar Ynys Môn.
Fe wnaeth Tom Brabbins, 32 oed, a Jamie Weston, 29 oed, ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun.
Fe wnaeth y ddau gyfaddef iddyn nhw gyflenwi cocên yn ardal Amlwch.
Rhwng Tachwedd 2024 a Chwefror 2025, byddai Brabbins a Weston yn teithio o Lannau Mersi i Ogledd Cymru i werthu cyffuriau dosbarth A.
Fe wnaethant ddefnyddio ffôn symudol i anfon negeseuon i ddefnyddwyr cyffuriau yn cynnig cyflenwi cocên iddyn nhw.
Gweithredodd swyddogion warant yn Amlwch ar 10 Chwefror a arweiniodd at arestio'r dau.
Cafodd Brabbins ei garcharu am bedair blynedd a Weston ei garcharu am dair blynedd a naw mis.
Gwnaethpwyd Weston hefyd yn destun Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am dair blynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar, sy’n ei atal rhag ymweld ag Ynys Môn.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Arron Hughes: “Ni fyddwn yn goddef y rhai sy’n dod â chyffuriau i Ynys Môn i dargedu unigolion bregus ac achosi niwed i’r cymunedau sy’n byw yno.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyffuriau yn eu hardal i riportio pryderon i’r heddlu neu’n ddienw drwy Crimestoppers.”