
'Cynnydd o 4%' mewn sbwriel plastig ar draethau Cymru ond 10% ar draws y DU
Mae nifer y sbwriel plastig ar draethau Cymru wedi cynyddu 4.3% o'i gymharu â ffigyrau'r llynedd medd elusen.
O amgylch y DU cyfan mae'r cynnydd bron i 10%.
Dywedodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS) fod mwy na 15,000 o wirfoddolwyr wedi codi tri chwarter miliwn o ddarnau o sbwriel ar draws traethau yn y DU yn 2024.
Roedd hyn yn golygu codi tua 170 eitem ar gyfartaledd fesul 100 metr o’r arfordir.
Mae’r adroddiad diweddaraf yn dangos bod y sbwriel plastig sydd wedi ei gasglu wrth lanhau’r traethau wedi cynyddu 9.5% yn 2024, o’i gymharu â’r data yn 2023.
Darnau plastig
Yn ôl yr elusen, mae hyn yn dangos bod llygredd plastig “yn parhau i fod yn broblem enfawr i’n hamgylchedd morol”.
Roedd gan draethau Cymru 120 eitem o blastig fesul 100 metr, sy’n gynnydd o 4.3% ar ffigyrau’r flwyddyn gynt.
Yn yr Alban, cododd gwirfoddolwyr 204 o eitemau fesul 100 metr, sy’n gynnydd o 7.2%. Yng Ngogledd Iwerddon, cafodd cyfartaledd o 316 darn o sbwriel am bob 100 metr ei godi, sef cynnydd o 35.9% o gymharu â 2023.
Roedd gan draethau Lloegr gyfartaledd o 158 eitem o sbwriel, ac felly’n ostyngiad o 2.2% ar ffigyrau 2023.
Dywedodd y grŵp cadwraeth mai darnau plastig oedd y sbwriel oedd yn cael eu darganfod amlaf ar draethau'r DU, ac yna pecynnau plastig untro fel pecynnau creision a phapurau melysion a brechdanau.
Roedd capiau a chaeadau poteli, a chortynnau hefyd ymhlith yr eitemau a oedd yn cael eu gweld amlaf wrth lanhau’r traethau.

Mae'r elusen yn dweud nad yw hi yn glir pam fod cymaint o gynnydd mewn sbwriel plastig eleni. Ond mae tueddiad cynyddol wedi bod yn nifer yr eitemau plastig sy'n cael eu darganfod ar draethau dros y 31 mlynedd y maent wedi bod yn cynnal yr arolwg.
Dywedodd Lizzie Price, rheolwr gwylio traethau yn yr MCS, bod y data gan 15,000 o wirfoddolwyr yn “glir: mae llygredd plastig yn parhau i fod yn broblem enfawr i’n hamgylchedd morol.”
“Mae angen mwy o bolisïau arnom ar frys i leihau plastigion untro a sicrhau gwell rheolaeth ar wastraff,” meddai.
“Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth amddiffyn ein cefnforoedd ac rydym yn annog y cyhoedd i gefnogi gweithredu cryfach yn erbyn gwastraff plastig, yn ogystal â thorri plastig i lawr o’u defnydd bob dydd.”
'Problem barhaus'
Ychwanegodd Catherine Gemmell, rheolwr polisi ac eiriolaeth yr MCS, bod y canfyddiadau’n amlygu “problem barhaus llygredd plastig”, a’r angen am fwy o “opsiynau a mynediad at gynhyrchion y gellir eu hail-lenwi a’u hailddefnyddio.”
“Rydyn ni angen mwy o bolisïau gan Lywodraeth y DU, a chymhellion i fusnesau, i dorri i lawr ar y plastig untro rydyn ni’n ei gynhyrchu,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran yr Amgylchedd Llywodraeth y DU: “Ers rhy hir mae gwastraff plastig wedi bod yn sbwriel ar ein strydoedd, wedi llygru dyfrffyrdd Prydain ac wedi bygwth ein bywyd gwyllt.
“Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i lanhau’r genedl a mynd i’r afael â gwastraff plastig wrth i ni symud tuag at economi gylchol.
“Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal fel bod mwy o blastig yn cael ei ailgylchu a ddim yn cael ei daflu fel sbwriel na’i adael i bydru ar safleoedd tirlenwi.”