Cymraes oedd yn gaeth mewn canolfan i fudwyr yn America wedi ei rhyddhau
Mae Cymraes a gafodd ei chadw'n gaeth mewn canolfan i fudwyr yn America am bron i dair wythnos tra'n teithio wedi cael ei rhyddhau.
Roedd Rebecca Burke, 28 oed o Sir Fynwy ar drip pedwar mis yn teithio o amgylch America pan gafodd ei gwrthod rhag cael mynediad i dalaith Washington.
Ceisiodd Miss Burke deithio yno wedi iddi geisio cael mynediad i Ganada.
Roedd gan Ms Burke gynlluniau i aros gyda theulu lle byddai wedi gweithio yn glanhau'r tŷ am lety.
Fe wnaeth hi gais am fisa twristiaid, yn hytrach na fisa gwaith.
Cyn hynny roedd hi'n aros gyda theulu yn Portland o dan amodau tebyg, wedi iddi dreulio cyfnod yn Efrog Newydd ar ddechrau 2025.
'Dychwelyd i America'
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod wedi "cefnogi Prydeiniwr a gafodd ei chadw yn America ac roeddem mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau lleol yno."
Fe wnaeth Ms Burke, sydd yn gweithio fel artist graffeg, gyrraedd maes awyr Heathrow ddydd Mawrth.
Wrth geisio mynd i Ganada, dywedodd yr awdurdodau yno y dylai hi ddychwelyd i America a llenwi gwaith papur o'r newydd cyn gallu croesi i'r wlad.
Ond pan geisiodd hi ddychwelyd cafodd ei gosod mewn gefynnau (handcuffs) a'i rhoi mewn cell cyn cael ei chludo i ganolfan Tacoma Northwest yn nhalaith Washington.