ITV i ddangos hysbysebion cyn sgrym yn ystod gemau'r Chwe Gwlad

Sgrym Cymru v Lloegr

Bydd ITV yn dangos hysbysebion yn ystod gemau'r Chwe Gwlad am y tro cyntaf yr wythnos hon, yn ôl adroddiadau.

Mae disgwyl i ddau hysbyseb gael eu darlledu cyn sgrym yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad rhwng Ffrainc ac Iwerddon yn Stade de France ddydd Iau.

Y gred yw bod ITV wedi cytuno ar gytundebau hysbysebu yn ystod gemau gyda dau frand mawr.

Bydd yr hysbysebion yn llenwi hanner dde'r sgrin ac yn para tua 20 eiliad, gyda lluniau byw yn parhau ar y chwith.

Mae hysbysebion sy'n cael eu defnyddio yn ystod gemau wedi cael eu defnyddio gan rwydweithiau teledu yn yr Unol Daleithiau ers sawl blwyddyn.

Maen nhw hefyd yn cael eu treialu gan y darlledwr cenedlaethol Gwyddelig RTÉ yn Iwerddon yn ystod eu darllediadau rasio.

Dyma'r tro cyntaf i ddarlledwyr rygbi a phêl-droed yn y DU ddangos hysbysebion y tu allan i'r egwyliau hanner amser neu cyn ac ar ôl gemau.

Y llynedd fe wnaeth ITV a'r BBC arwyddo cytundeb pedair blynedd i sicrhau bod y twrnamaint yn parhau'n rhad ac am ddim ar deledu.

Ar adeg y cytundeb, dywedodd Tom Harrison, prif weithredwr Rygbi’r Chwe Gwlad: "Mae’r amgylchedd masnachol y mae rygbi’n gweithredu ynddo yn hynod heriol ac nid yw’r frwydr am sylw’r gynulleidfa erioed wedi bod yn fwy.

"Ond mae’r Chwe Gwlad yn sefyll ochr yn ochr â’r achlysuron mwyaf mewn chwaraeon byd-eang, sy’n cael ei adlewyrchu gan y partneriaethau hyn."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.