Pen Llŷn: Cynllun i adfywio siop wag ar stryd fawr Nefyn
Mae cais wedi’i gyflwyno i newid cyn-siop Spar yn Nefyn i fod yn “siop, caffi a siop sglodion”.
Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno i ddatblygu hen siop Glynllifon ar y Stryd Fawr i fod yn dair uned ar wahân, a fyddai’n cynnwys siop, caffi a siop sglodion.
Bydd “newidiadau mewnol” hefyd yn cael eu gwneud i ddau fflat uwchben yr unedau.
Mae’r cais wedi ei wneud i Gyngor Gwynedd gan Alan Rowlands drwy asiant Gwyn Pritchard o Dŷ Newydd Cyf.
Mae’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd dros y blynyddoedd, gan gynnwys bod yn siop Spar. Ar hyn o bryd mae’n wag ac mewn “angen atgyweirio brys”.
Dywedodd y cais bod y cynnig yn ceisio “newid defnydd y siop fawr i dri uned ar wahân - siop, caffi a siop sglodion.”
“Byddai'r holl drefniadau cerbydau a gwasanaethu presennol hefyd yn aros fel y maent,” meddai.
Mae’r cais hefyd yn dweud mai’r bwriad ydi i “geisio gwella’r defnydd presennol o’r uned yng nghanol y dref gan wneud defnydd effeithiol ac affeithlon o adnod sy’n bodoli’n barod”.
Ychwanega bod lleoliad yr uned yng nghanol y dref yn golygu y byddai’r “rhai sy’n ymweld yn gallu gwneud hynny drwy amryw o ddulliau trafnidiaeth – bws a char”, ac felly’n “cefnogi amcanion cyffredinol datblygu cynaliadwy”.
Llun: Google Maps