Cwsmeriaid Tata Steel 'am ganslo archebion o achos tollau Donald Trump'
Mae cwsmeriaid Tata Steel eisiau canslo eu harchebion gyda'r cwmni oherwydd y tollau sydd wedi eu gosod gan Donald Trump ar fewnforion metalau i America.
Ddydd Mawrth dywedodd prif weithredwr Tata Steel yn y DU, Rajesh Nair, fod rhai cwsmeriaid wedi bod yn gofyn am iawndal ar gyfer eu harchebion.
Wrth siarad â Phwyllgor Busnes a Masnach y DU yn San Steffan, dywedodd: "Mae cwsmeriaid wedi'u dychryn ac eisiau mynd i gyflenwyr eraill i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu dal yng nghanol y frwydr tollau hon.
"Felly mae cwsmeriaid yn siarad gyda ni yn barod eisiau canslo archebion ac mewn rhai achosion yn gofyn am iawndal."
Ychwanegodd Mr Nair y byddai'r difrod i werthiant ac elw'r cwmni yn "arwyddocaol."
Dywedodd Alan Bell, prif swyddog masnachol British Steel fod y grŵp yn allforio tua 50,00 o dunnell i'r farchnad yn America.
Ategodd bryderon Mr Nair bod cwsmeriaid yn canslo eu harchebion.
Y llynedd fe wnaeth Tata gau ffwrneisi chwyth (blast furnaces) ym Mhort Talbot gyda'r bwriad o newid i ddefnyddio ffwrneisi trydan sy’n well i’r amgylchedd, ond sydd angen llai o weithwyr.
Mae hyn wedi arwain at golli bron i 2,000 o swyddi yn y dref, er bod Tata a Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw’n ymrwymo i ddod o hyd i swyddi newydd i’r rhai sy’n cael eu heffeithio.