Straen chwarae rygbi a gweithio’n llawn amser: Profiad Elinor Snowsill
Mae cyn faswr rygbi merched Cymru wedi bod yn siarad am y “pwysau” oedd ar ei hysgwyddau wrth chwarae’r gêm a chynnal swydd llawn amser yr un pryd.
Tan 2021 roedd y gêm i ferched yng Nghymru yn un amaturaidd. Roedd hynny yn golygu nad oedden nhw yn cael unrhyw dâl am chwarae ac hyfforddi.
Wrth siarad ar bodlediad BBC Lleisiau Cymru Nigel Owens: Dan Bwysau, mae Elinor Snowsill yn dweud bod yna straen wrth geisio cynnal y ddau beth.
“I fi odd dim byd fel pwysau chwarae rygbi rhyngwladol a cyflawni swydd llawn amser. Odd e’n teimlo fel ar adegau mae gyda ti arholiad mawr ble mae pawb yn mynd i fod yn gwylio a so ti ‘di paratoi ar gyfer yr arholiad.
"So ti ‘di cael amser i baratoi. So ti’n teimlo’n ffresh. Ti’n knackered achos gweithio dydd Llun i dydd Gwener, orie llawn. Wedyn ymarfer yn y nos neu mynd i’r gym neu beth bynnag. Wedyn os odd y gêm ar ddydd Sul cwrdd falle nos Wener. Hedfan mas i rwle, odd y flight fel pedwar yn y bore so, so ti ‘di cysgu yn iawn.”
Mae’n dweud fod pobl wedi dechrau barnu a chymharu safon y chwarae rhwng y dynion a merched unwaith y dechreuodd y gemau merched gael eu dangos ar y teledu.
Roedd hi hefyd yn anodd pan ddechreuodd gwledydd eraill droi yn broffesiynol a Chymru dal yn amaturaidd meddai.
“Odd hyfforddwyr ni yn disgwyl cymaint mwy mas ohono ni ond odd sefyllfa ni ddim di newid. So odd jest rhaid i ni roi mwy a mwy a mwy.
"Mae’n effeithio bywyd cymdeithasol ti, mae’n effeithio lles meddyliol, emosiynol, mae’n effeithio lot pan ti dan gymaint o bwysau.”
Unwaith y cafodd cytundebau eu cyflwyno i chwaraewyr Cymru mae’n dweud bod y pwysau wedi diflannu a’u bod wedi gallu canolbwyntio ar hyfforddi ac edrych ar ôl ei hunan yn iawn.
'Embarrassed' siarad Cymraeg
Wrth edrych yn ôl ar ei gyrfa mae’n dweud efallai y byddai wedi bod yn chwaraewraig wahanol pe byddai’r gêm wedi troi yn broffesiynol yn gynt. Dim ond am flwyddyn a hanner y buodd Elinor yn chwarae yn broffesiynol cyn iddi ymddeol.
Nid y bêl hirgron oedd yn mynd a’i bryd chwaith pan yn ifanc. Am ei bod wedi ei magu y tu allan i Lundain ei huchelgais oedd chwarae pêl droed dros Loegr.
Ond fe symudodd y teulu i Gymru wedi un digwyddiad rhyngthi hi a’i mam pan oedd Elinor yn blentyn. Er ei bod yn byw yn Lloegr roedd ei mam, y gogyddes Nerys Howell, yn mynnu siarad Cymraeg gyda hi.
“O’n i bach yn embarrassed achos odd neb arall yn siarad yr iaith. A pryd o’n i yn saith nes i droi rownd a gweud, 'Reit fi mynd i stopio ateb ti yn Gymraeg.Fi mynd i stopi ateb os ti yn siarad da fi yn Gymraeg, sai moen clywed e'. Ath hi 'Reit' a symud yr holl teulu i Gaerdydd a rhoi fi mewn ysgol gynradd Cymraeg.”
Yn yr Ysgol Uwchradd ym Mhlasmawr fe wnaeth ei hathrawes ymarfer corff, Catrin Edwards, oedd hefyd yn chwarae rygbi dros Gymru ei hysbrydoli.
Y dyddiau yma mae Elinor yn hyfforddi gan gynnwys tîm Cymru dan 18 ac yn sylwebu ar y gêm. Mae’n dweud bod gêm y merched erbyn hyn “lot yn well” gyda llawer mwy o fuddsoddi o oedran ifanc.
“Mae criw o ferched yn dod trwyddo, byddan nhw mewn cwpl o flynyddoedd yn cael caps dros Cymru a ma nhw yn mynd i fod yn anhygoel.”
Llun: Asiantaeth Huw Evans