Cyhoeddi 'arbedion o £5 biliwn' i fudd-daliadau gwaith ac iechyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i ddiwygio budd-daliadau gwaith ac iechyd, gan gynnwys Credyd Cynhwysol a'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Gobaith gweinidogion yw y bydd yn arwain at arbed £5 biliwn erbyn 2030, ond mae'r cam wedi ei feirniadu'n hallt gan y gwrthbleidiau ac undebau.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau Liz Kendall yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth mai bwriad y llywodraeth oedd helpu pobl i ddychwelyd i fyd gwaith os oeddynt wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio o achos salwch.
Ymysg y camau sydd wedi eu cyhoeddi, fe fydd y llywodraeth yn uno budd-daliadau Lwfans Ceisio Gwaith gyda'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Fe fydd holiaduron gallu i weithio ar gyfer Credyd Cynhwysol yn cael eu diddymu yn 2028 hefyd meddai Liz Kendall.
Dywedodd fod bron i bedair miliwn o bobl mewn gwaith, er bod ganddyn nhw gyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, a bod 300,000 yn rhoi’r gorau i weithio bob blwyddyn.
Mae'r siawns y bydd pobl yn dychwelyd i'r gwaith bum gwaith yn uwch o fewn y flwyddyn gyntaf iddynt gael llythyr meddyg yn rhoi'r hawl iddyn nhw beidio gweithio, meddai.
Dychwelyd i'r gwaith
Dywedodd Ms Kendall fod angen i’r llywodraeth wneud “llawer mwy” i helpu pobol i aros mewn gwaith a dychwelyd i’r gwaith:
“Mae’r ffeithiau’n siarad drostynt eu hunain: un o bob 10 o bobl o oedran gweithio bellach yn hawlio budd-dal salwch neu anabledd, bron i filiwn o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant – dyna un o bob wyth o’n holl bobl ifanc.
“2.8 miliwn allan o waith oherwydd salwch tymor hir, a nifer y bobl sy’n hawlio Taliadau Annibyniaeth Personol yn mynd i ddyblu’r ddegawd hon o ddau i 4.3 miliwn, gyda’r twf mewn ceisiadau’n codi’n gynt ymhlith pobol ifanc â chyflyrau iechyd meddwl.
“A gyda hawliadau hyd at bedair gwaith yn uwch mewn rhannau o Ganolbarth Lloegr, Cymru a’r Gogledd, lle mae’r galw economaidd ar ei wannaf."
Cyfeiriodd at roi tâl salwch statudol i'r gweithwyr sy'n ennill y cyflogau isaf, a byddai mwy o hawliau i weithio gartref yn helpu pobl i aros mewn swyddi.
Dywedodd fod cynlluniau'n cael eu treialu i feddygon teulu atgyfeirio pobl at gynghorwyr cyflogaeth yn hytrach na'u rhoi ar gyfnod i ffwrdd yn sâl.
Dywedodd Ms Kendall y bydd adolygiad Keep Britain Working gan gyn-bennaeth John Lewis, Syr Charlie Mayfield, yn helpu i sefydlu beth all cyflogwyr ei wneud i gadw pobl mewn gwaith.
'Toriadau creulon'
Fe gafwyd ymateb chwyrn gan undebau i'r cyhoeddiad. Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb y PCS, Fran Heathcote: “Mae targedu’r rhai mwyaf agored i niwed gyda thoriadau budd-daliadau i fodloni rheolau cyllidol mympwyol yn ddewis anfoesol ar unrhyw adeg, ond ar adeg o dlodi cynyddol, mae rhestrau aros hir y GIG a phan fydd yr argyfwng costau byw yn parhau i frathu yn wrthun.”
Dywedodd y byddai’r undeb, sy'n cynnwys staff sy’n gweithio mewn Canolfannau Gwaith, yn “ymgyrchu... i wrthwynebu’r toriadau creulon hyn”.
Dywedodd pennaeth yr Undeb Addysg Cenedlaethol, Daniel Kebede: “Mae’n anodd meddwl am lywodraeth Lafur yn trin aelodau mwyaf bregus cymdeithas yn waeth.
“I bensiynwyr sydd wedi colli’r lwfans tanwydd gaeaf, rhieni sy’n ymdopi â’r cap ar fudd-daliadau dau blentyn, ac sydd bellach yn targedu oedolion anabl, mae creulondeb yn dod yn un o nodweddion amlwg y llywodraeth hon, ac mae’n gwbl amhosib ei amddiffyn.”
Dywedodd Llefarydd Gwaith a Phensiynau Plaid Cymru, Ann Davies AS: “Bydd tynnu £5 biliwn o’r bil lles ond yn ychwanegu straen ar wasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau.
“Unwaith eto, mae’r Llywodraeth Lafur hon yn y DU yn dewis llymder tymor byr dros atebion hirdymor i’r materion dwfn sy’n effeithio ar bob un ohonom.
“Yn hytrach na thorri cymorth hanfodol, dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi mewn ffyrdd o fynd i’r afael â thlodi, anghydraddoldebau iechyd, a’r diffyg cymorth i bobl anabl.
“Bydd Cymru’n cael ei heffeithio’n arbennig, gyda’r gyfran ail-uchaf o bobl anabl o oedran gweithio yn y DU."
Llun: PA