Rhybudd melyn am rew i rannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i rannau o Gymru fore dydd Mercher.
Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 00:00 a 12:00.
Yn ôl llefarydd fe allai'r rhew achosi pobl i lithro ar balmentydd sydd heb eu graeanu, ac fe allai ardaloedd o rew fod ar rai ffyrdd.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Sir Gaerfyrddin
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Nedd Port Talbot
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Wrecsam