
O Gymru i India: Merched o Gymru yn rhannu eu profiadau o'u hiaith a diwylliant

O Gymru i India: Merched o Gymru yn rhannu eu profiadau o'u hiaith a diwylliant
Fel rhan o bartneriaeth newydd yr Urdd, mae 10 o ferched o Gymru wedi teithio i India er mwyn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Dyma oedd flwyddyn gyntaf strategaeth yr Urdd, ‘Fel Merch’, sy’n ceisio creu cysylltiadau i ferched ifanc ar lefel rhyngwladol a hybu gwaith gwirfoddoli.
Daw’r daith fel rhan o bartneriaeth tair blynedd o hyd gydag elusen ‘Her Future Coaltion’ o Kolkata yn nwyrain India.
Mae’r elusen yn ceisio diogelu merched all fod mewn perygl o ddioddef cam-drin rhywiol, ac yn darparu addysg a gwasanaethau i’w cefnogi.
Nod y daith eleni oedd rhoi cyfle i ferched Cymru cwrdd â phobl ifanc Kolkata gan rannu profiadau i’w wneud a’u hiaith a diwylliant.
Ymhlith y 10 a gafodd eu dewis i gymryd rhan yn y daith oedd Keira Bailey-Hughes, a hithau wedi dweud yr oedd hi’n teimlo’n amheus cyn ymweld â’r wlad.
“Mae lot o bobl yn dweud fod India yn lle conservative a bod chi angen…actio rhyw ffordd benodol,” esboniodd wrth siarad ag ITV Cymru.
“Dwi’n eithaf alternative, roedden i’n meddwl bod lliw gwallt fi, neu’r pethau dwi’n gwisgo mynd i fod yn broblem.
“Ond roedd lot o bobl jyst yn meddwl oedd o’n hardd ac yn unigryw, ac roedd hynna’n peth lyfli i fi.”

‘Ddim yn iaith fawr’
Dywedodd Keira ei bod hi’n ddoniol i egluro ei bod hi’n siarad Cymraeg ar ôl i nifer o bobl ofyn os taw Almaeneg, Ffrangeg neu Sbaeneg oedd hi’n siarad.
Er hyn, cafodd hi ei syfrdanu ar ôl i lond llaw o bobl ddyfalu’n gywir mai’r Gymraeg oedd hi’n siarad gan eu bod nhw wedi ymweld â Chymru yn y gorffennol.
“Mae’n cŵl i fel… cyfarfod pobl sy’n gwybod am Gymru yn India!”
Cafodd partneriaeth debyg ei gyflawni gan yr Urdd 20 mlynedd yn ôl gyda Cymorth Cristnogol, sef ‘Croeso Kolkata’.
Ond yn dilyn blwyddyn ‘Cymru yn India’ gan Lywodraeth Cymru yn 2024, fe benderfynodd y ddwy wlad i ailgydio yn y berthynas a chynnig cyfleoedd i bobl gwirfoddoli yno unwaith yn rhagor.