Newyddion S4C

Gofodwyr Nasa ar eu ffordd adref naw mis yn ddiweddarach

Butch Wilmore a Suni Williams

Ar ôl naw mis yn y gofod mae’r gofodwyr Nasa, Butch Wilmore a Suni Williams, o’r diwedd ar eu ffordd adref.

Dim ond am wyth diwrnod roedd y ddau i fod yn y gofod. Ond fe olygodd problemau technegol gyda’i llong ofod eu bod wedi gorfod aros yn hirach.

Mae disgwyl iddynt lanio ger Florida tua 10 o’r gloch nos Fawrth a hynny ar ôl trip 17 awr.

Fe ddechreuodd Butch a Suni y daith i’r gofod ym mis Mehefin y llynedd.

Ond yn sgil problemau technegol roedd yn rhaid i’r llong ofod, Starliner, ddod yn ôl i'r ddaear.

Y gred oedd bod hi’n rhy beryglus i’r gofodwyr fynd yn ôl ar Starliner felly roedd yn rhaid lansio llong ofod arall fel eu bod yn medru dychwelyd adref.

Mae Butch a Suni wedi bod yn cynnal arbrofion yn y gofod tra’n disgwyl. Yn ôl Suni Williams mae’r profiad o fod yn y gofod yn rhoi “persbectif gwych” i berson.

Llun: Wochit/AFP/NASA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.