Newyddion S4C

'Peidiwch â phrynu Tesla': Neges enfawr yn ymddangos ar draeth yng Ngwynedd

Neges yn erbyn Tesla ar draeth ym Morfa Bycha

Mae protestiadau yn erbyn y biliwnydd Elon Musk a’i gwmni ceir Tesla wedi eu cynnal ledled y byd yn ystod y dyddiau diwethaf.

Bellach, mae protest o’r fath wedi cyrraedd Cymru.

Mae fideo gan y grŵp ymgyrchu Led By Donkeys yn dangos menyw yn rhannu neges o wrthwynebiad ar Draeth y Graig Ddu, ym Morfa Bychan yng Ngwynedd.

Yn ystod y fideo mae Prama, sydd yn gyrru ar hyd y traeth, yn esbonio pam ei bod hi erbyn hyn yn credu na ddylai fod yn berchen ar gar Tesla. Fe brynodd hi gar gan y cwmni chwe blynedd yn ôl.

Mae'n annog eraill i feddwl ddwywaith hefyd.

“Fy neges i unrhyw un sydd yn ystyried prynu Tesla yw peidiwch,” meddai. 

Mae Prama yn dweud ei bod wedi dechrau cwestiynu a ddylai hi fod yn berchen ar Tesla wedi i Elon Musk ddechrau uno â’r “adain dde eithafol.”

Mae Mr Musk meddai wedi troi’n ddyn sydd ag obsesiwn â phŵer.

Mae’r neges hefyd yn ymddangos wrth ochr amlinelliad adnabyddus o'r biliwnydd Elon Musk. Mae’n dangos y foment y gwnaeth ef ymestyn ei fraich yn yr awyr ar ôl i Donald Trump gael ei urddo’n Arlywydd yr Unol Daleithiau am yr ail dro.

Fe wnaeth nifer ei feirniadu ar y pryd am ei fod yn ymddangos fel symudiad sydd yn gysylltiedig gyda mudiad y Natsïaid.

Yn ôl y grŵp Led By Donkeys, mae modd gweld y neges o’r gofod. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.