Dynion wedi gadael ar ôl gwrthdrawiad: Heddlu'n ymchwilio
Mae’r heddlu yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Aberdulais.
Fe adawodd y dynion oedd yn un o’r ceir y lleoliad wedi’r gwrthdrawiad ac mae’r heddlu'n ymchwilio’r ffaith eu bod wedi gadael.
Mae dyn 60 oed wedi dioddef anafiadau “fydd yn newid ei fywyd” wedi’r digwyddiad.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car gwyn Vauxhall Corsa SRI a char gwyn Citroen Picasso oedd wedi parcio mewn arosfan.
Ond fe adawodd y rhai oedd yn y car Corsa y lleoliad wedyn.
Mae’r heddlu yn gofyn i dystion a welodd yr hyn a ddigwyddodd neu sydd â lluniau CCTV o’r digwyddiad i gysylltu. Maent hefyd eisiau clywed gan unrhyw un sydd yn gallu adnabod y dynion wnaeth adael y lleoliad wedi’r gwrthdrawiad.