Israel yn ymosod ar Gaza wedi'r cadoediad
Mae byddin Israel wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal ymosodiadau “helaeth” ar hyd Llain Gaza.
Mae adroddiadau bod dros 200 o bobl Palesteina wedi eu lladd.
Dyma yw’r ymosodiad mwyaf yn Gaza ers i gadoediad rhwng y ddwy wlad ddod i ben ar 1 Mawrth.
Fe fethodd trafodaethau o ran ymestyn y cadoediad yn gynharach yn y mis.
Mae byddin Israel wedi dweud mai ymosod ar “dargedau terfysgol” Hamas oedd eu nod.
Cafodd Khan Younis a Rafah yn ne Gaza, Dinas Gaza yn y gogledd a Deir el-Balah yng nghanol Gaza eu targedu.
Fe ddaeth gorchymyn am yr ymosodiad gan Brif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu a’r Gweinidog Amddiffyn Israel Katz.
Daw’r penderfyniad wedi i Hamas wrthod sawl cais i ryddhau gwystlon Israel, medd datganiad ar ran swyddfa Mr Netanyahu.
Mae Hamas wedi disgrifio’r ymosodiad fel “brad” sydd yn torri amodau’r cadoediad.
Dyw Hamas ddim wedi dweud yn gyhoeddus hyd yma os ydyn nhw am ail-ddechrau’r rhyfel. Maen nhw wedi galw ar swyddogion o’r Cenhedloedd Unedig i ymyrryd.
Llun: Wochit