
'Poeni mawr' yn sgil bwriad i gau ysgol leiaf Powys
'Poeni mawr' yn sgil bwriad i gau ysgol leiaf Powys
Mae’r bwriad i gau ysgol leiaf Powys wedi siomi ymgyrchwyr lleol.
25 o blant sy’n mynd i Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin, ac yn ôl Cyngor Powys mae’n rhaid mynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach o fewn y sir.
Mae disgwyl i’r ysgol gau fis Awst.
Mae Huw Evans a’i deulu yn byw ac yn gweithio yn y pentre. Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C bod yr ysgol yn hanfodol i'r pentref.
“Mae’r ysgol yn cadw’r pentref yn fyw, ac mae jyst yn neis cadw’r plant i fynd i’r ysgol yn lle maen nhw’n byw," meddai.
“ ’Da ni’n byw ac yn gweithio yn y pentref so mae’n neis jest gallu gyrru’r plant bech ddim rhy bell i ffwrdd.”
25 o blant sy’n yr ysgol ac maen nhw wedi eu rhannu rhwng dwy stafell ddosbarth.
Drwy eu hanfon i ysgolion mwy o faint, cyfagos, mi fydd dewis ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrisol i’r plant yn ôl y Cyngor.
Ond i Huw Evans mae'r penderfyniad hwnnw yn un siomedig.

“Piti rili. Wel mae o’n neud chi’n bach yn flin rili bod o’n cau," meddai.
“Maen nhw newydd wario dipyn ar y ffens rownd yr ysgol a wedyn sôn am cau hi, mae’n biti”
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts ar ran Cyngor Powys bod "angen i ni fynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, niferoedd disgyblion yn gostwng a'r nifer uchel o leoedd dros ben."
'Poeni mawr'
Yn ôl Cyngor Powys, mae’r cynlluniau yn rhan o’u strategaeth trawsnewid Addysg.
Y bwriad ydi mynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach o fewn y sir, niferoedd disgyblion yn gostwng a llefydd gwag.
Mae’r awdurdod yn dweud nad oes disgwyl i niferoedd y disgyblion yr ysgol gynyddu dros y blynyddoedd nesa.
O ran gwariant fesul disgybl, mae cost yr ysgol yma yn un o’r rhai drytaf i’r cyngor.
Yn lleol, mae ’na bryder y bydd plant yn gadael yr ardal i fynd i ysgolion cynradd yn ardal Croesoswallt.
Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr a chynghorydd lleol Llansilin, Aled Davies, ei fod poeni y gallai plant cael eu danfon i ysgolion yn Lloegr.
"Mae yna boeni mawr yn yr ardal yma. ’Da ni reit ar y ffin, chi’n gallu gweld bryniau Lloegr o fama," meddai.
“Ni’n cornel uchaf Powys a dwi wir yn pryderu bydd y plant ac ati yn mynd dros y ffin i Sir Amwythig a cael eu haddysg yn fana."

“A wedyn colli y connection yma efo Cymru a fasan nhw’n mynd ymlaen i ysgol uwchradd yn Sir Amwythig a ddim yn mynd i ysgol uwchradd lleol yn Llanfyllin.
“Ac felly bydd diwylliant yr ardal yn newid yn gyfan gwbl.
“Mae o mor bwysig bo ni’n ymladd am bob troedfedd o dir yma yng Nghymru. Gwnued yn siwr fod y plant sy’n cael eu geni yng Nghymru yn cael y cyfle i gael addysg Gymraeg yma yng Nghymru, a bo ni ddim yn dechrau troi Llansilin yn suburb o dref yn Sir Amwythig.”
'Nid ar chwarae bach'
Er fod y broses gyfreithiol i gau'r ysgol wedi dechrau, tydi’r cabinet ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol.
Os oes unrhywun yn awyddus i leisio eu barn mae’r cyngor yn gofyn iddyn nhw anfon eu sylwadau cyn 9 Ebrill.
Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts ar ran Cyngor Powys: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r dechrau gorau posibl i'n dysgwyr a chredwn y bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cyflawni hyn.
"Mae'r niferoedd disgyblion hanesyddol a rhag-amcanol ar gyfer Ysgol Bro Cynllaith yn awgrymu na ddisgwylir i'r niferoedd gynyddu'n sylweddol yn y dyfodol tra mai hi yw'r drydedd ysgol uchaf ym Mhowys yn ôl cyfran cyllideb fesul disgybl.
"Mae niferoedd bach y disgyblion yn yr ysgol yn golygu bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau cyfnod allweddol cyfan gyda disgyblion sylfaen mewn un dosbarth a disgyblion hŷn mewn un arall.
"Nid ar chwarae bach y daethom at y cynnig hwn ond credwn fod angen mynd i'r afael â'r niferoedd isel yn yr ysgol a lleihau capasiti dros ben cyffredinol y cyngor mewn ysgolion cynradd."