'Addysgwr oesol': Teyrnged i Martin Lloyd o Sir Benfro yn dilyn ei farwolaeth
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-brifathro o Sir Benfro sydd wedi ei ddisgrifio fel “dyn y bobl” ac “addysgwr oesol” yn dilyn ei farwolaeth.
Bu farw Martin Lloyd o Gilgerran yn 74 oed yn dilyn cyfnod o waeledd.
Roedd yn athro economeg ac yna yn brifathro ar Ysgol y Preseli yng Nghrymych tan ei ymddeoliad.
Gyda “gweledigaeth glir a brwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg” fe drodd yr ysgol yn ysgol ddwyieithog yn 1991 o dan ei arweiniad.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd ei gyfaill, y Cynghorydd John Davies, fod Mr Lloyd bob amser yn frwd dros ei gymuned gan ychwanegu fod yr ysgol yn “rhan annatod ohono.”
“Roedd yn ddyn ei filltir sgwâr. Odd e’n Cilgerran trwyddo a trwyddo, bob modfedd o’i gorff.
“Mae’n anodd i ddisgrifio’r teyrngarwch oedd gyda fe i’w bobl a’i gymuned – odd e’n rhyfeddol.
“Roedd yn addysgwr oesol nath gael y gorau allan o bobl er lles y plant. Dyna oedd ei fawredd mwyaf e heb os, oedd e mor hoff o blant… 'odd e’n naturiol o ofalgar."
'Chwedlonol'
Fe symudodd Mr Lloyd i Gilgerran o Geredigion yn dair oed.
Roedd ei gymeriad a'i boblogrwydd yn y ei bentref yn "hollol chwedlonol," ychwanegodd Mr Davies.
“Odd Martin Lloyd yn nabod pob person, pob ci a pob cath. Dwi’n gwybod y byddai’r teulu yn dymuno i’n dweud, mai’r bobl hynny, y cyfeillgarwch hynny nath ei gynnal e trwy ei afiechyd yn ystod ei wythnosau olaf.”
Dywedodd Mr Davies mai cefnogaeth Mr Lloyd a wnaeth ei gynnal ef yn ystod cyfnodau heriol yn ystod ei dri degawd fel cynghorydd sir.
“Oni bai am gefnogaeth ac anogaeth Mr Martin Lloyd fyddwn i ddim wedi cael yr adenydd sydd wedi caniatáu i fi hedfan trwy lwybr bywyd.
“O ni’n gyfeillion oedd yn pwyso ar ein gilydd ac o ni’n rhannu’r un diddordebau hefyd o ran materion y byd, gwleidyddiaeth."
Roedd yn berson “unigryw iawn gyda ffordd ddigamsyniol o roi hyder i bobl,” meddai Mr Davies.
“Nath e adael ei farc ar bawb, gadael ei argrafff ar bawb.
“O’ch chi’n teimlo’n well ar ôl bod yn ei gwmni o.”