Marwolaeth Tonysguboriau: Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes 40 oed yn Nhonysguboriau.
Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu yn y dref ar 9 Mawrth.
Fe ymddangosodd Jordan Mills-Smith, 32, o Bentwyn, Caerdydd, y pumed person sydd wedi’i gyhuddo o’i llofruddio, yn Llys Ynadon Merthyr ddydd Llun.
Cafodd ei arestio yn ardal Suffolk ddydd Gwener.
Roedd Mills-Smith, sy'n foel gyda barf, yn gwisgo tracsiwt lwyd ac fe gerddodd i mewn i'r doc yn gafael yn ei gefn.
Siaradodd i gadarnhau ei enw, ei oedran a'i gyfeiriad yn unig.
Cafodd Mills-Smith ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Rhanbarthol Neale Thomas i ymddangos gyda gweddill y diffynyddion yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Dywedodd Mr Thomas: “Mae natur y drosedd hon yn golygu bod yn rhaid iddo gael ei glywed yn llys y goron.”
Mae'r heddlu wedi dweud o'r blaen eu bod yn ymchwilio i sawl trywydd, gan gynnwys bod Ms Penney wedi ei saethu ar ôl cael ei chamgymryd am rywun arall.
Mae Marcus Huntley, 20, o Laneirwg, Caerdydd; Melissa Quailey-Dashper, 39, o Gaerlŷr; Joshua Gordon, 27, o Oadby, Sir Gaerlŷr; a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, i gyd wedi'u cyhuddo'n flaenorol o lofruddiaeth.
Mae Porter hefyd wedi’i gyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddol.
Mae Kristina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi’i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Fe ymddangoson nhw i gyd yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn a chawsant eu cadw yn y ddalfa.