Newyddion S4C

Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi diflaniad menyw o Gaerdydd

Charlene Hobbs

Mae swyddogion sy'n chwilio am ddynes aeth ar goll yng Nghaerdydd y llynedd wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth.

Nid yw Charlene Hobbs, 36 oed, wedi ei gweld ers iddi ddiflannu yn ardal Glan yr Afon o'r ddinas ym mis Gorffennaf 2024.

Yr achos olaf a gadarnhawyd yw llun ffôn symudol a dynnwyd o Charlene mewn eiddo yn ardal Broadway 0 Adamsdown.

Mae diflaniad Charlene bellach yn cael ei drin fel llofruddiaeth ac mae elusen Crimestoppers yn cynnig gwobr o hyd at £20,000 am wybodaeth sy’n arwain at arestio'r rhai sydd yn gyfrifol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell o Heddlu De Cymru: “Rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o ddod o hyd i Charlene yn fyw a’i dychwelyd at ei theulu, ond er gwaethaf nifer enfawr o ymholiadau nid oes gennym unrhyw brawf bod Charlene yn fyw. 

"Rydyn ni nawr yn ymchwilio i'w diflaniad fel llofruddiaeth.

“Er fy mod bob amser wedi cynnal meddwl agored, mae’r diffyg tystiolaeth bod Charlene yn fyw yn golygu ein bod bellach yn trin ei diflaniad fel ymchwiliad llofruddiaeth.

“Rydyn ni wedi siarad â mwy na 250 o bobl, naill ai’n hysbys i Charlene neu o ardaloedd lle mae hi’n hysbys ei bod hi’n aml, ac ni all neb ddweud wrthym ble mae Charlene na’i bod hi’n fyw, beth yr ydym ni, ei theulu a’i ffrindiau, wrth gwrs, eisiau ei glywed."

Image
Ymgych chwilio

Ychwanegodd: “Mae nifer o’r rhai rydyn ni wedi siarad â nhw yn credu ei bod hi wedi marw ond does neb wedi gallu rhoi unrhyw fanylion penodol. 

"Rydym yn gobeithio y bydd gwobr Crimestoppers yn helpu i ganolbwyntio meddyliau pobl.

“Mae teulu Charlene yn parhau i gael eu diweddaru, ac mae ein meddyliau gyda nhw ar yr amser anodd hwn.”

Mae teulu Charlene wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol: "Rydym wedi cael ein diweddaru gan DCI Powell bod hwn bellach yn ymchwiliad llofruddiaeth, a bod apêl Crimestoppers wedi'i wneud gyda gwobr o £20k. 

"Rydym yn dal i obeithio y bydd Charlene yn ddiogel ac yn iach.

"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Crimestoppers a'r wobr i'n helpu i ddod o hyd iddi, ac yn gobeithio y bydd hyn yn helpu pobl i ddod ymlaen â gwybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd i Charlene."

Mae dyn 45 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae dyn 43 oed a dynes 38 oed wedi cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.