'Perygl mwyaf dwi erioed wedi gweld' i'r gymuned hoyw medd Russell T Davies
Mae’r dramodydd Russell T Davies wedi dweud bod y gymuned hoyw yn wynebu’r “perygl mwyaf dwi erioed wedi gweld”.
Dywedodd fod hynny yn sgil gwneud Donald Trump yn Arlywydd America.
Wrth siarad gyda The Guardian dywedodd nad oedd “yn codi bwganod” ond ei fod wedi gweld mwy o elyniaeth ers mis Tachwedd.
“Fel dyn hoyw, dwi’n teimlo ton o gasineb, trais a dicter yn dod tuag aton ni a hynny ar raddfa fawr.
“Dwi ddim yn codi bwganod. Dwi’n 61 oed. Dwi’n nabod y gymuned hoyw yn dda iawn, iawn a dwi’n credu dyma’r perygl mwyaf dwi erioed wedi gweld”.
Cafodd seremoni Gaydio Pride ei chynnal ym Manceinion ddydd Gwener. Yn ystod y seremoni honno fe gollfarnodd y dramodydd o Gymru Donald Trump a’r biliwnydd Elon Musk sydd yn berchen ar y wefan gymdeithasol X.
Dywedodd bod y perygl sydd yn wynebu’r gymuned hoyw yn waeth heddiw nag yr oedd yn yr 1980au pan ddigwyddodd yr argyfwng HIV ac Aids.
Ers i Trump gael ei ethol mae wedi gwahardd pobl trawsryweddol rhag ymuno a’r fyddin. Mae hefyd wedi dod a pholisïau oedd yn amddiffyn pobl o’r gymuned LGBTQ+ rhag cael eu gwahaniaethu i ben.
Ond dywedodd wrth The Guardian y byddai pobl yn dod at ei gilydd ac yn protestio.
“Yr hyn wnawn ni ym myd Elon Musk, y byd yr ydyn ni yn wynebu, yw'r hyn mae artistiaid wastad wedi gwneud sef cyfarfod mewn seleri a chynllunio a chanu a chyfansoddi a pheintio a gwneud areithiau a gorymdeithio.”