Newcastle yn ennill cwpan wedi 70 mlynedd hesb
Ar ôl hir ddisgwyl a 70 mlynedd o siom mae tîm pêl droed Newcastle United wedi ennill cwpan.
Fe gurodd Newcastle gwpan Carabao wedi buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Lerpwl.
Y tro diwethaf iddyn nhw ennill tlws o’r fath oedd yn 1955.
Lerpwl oedd y ffefrynnau ond Newcastle gafodd yr hanner cyntaf gorau. Fe gafon nhw ei gwobrwyo gyda gôl gan Dan Burn.
Er i gôl arall yn gynnar yr ail hanner gael ei gwrthod daeth ymgais arall gan Alexander Isak a tro yma roedd hi'n cyfri.
Fe darodd Lerpwl yn ôl yn ystod yr amser ychwanegol ond fe lwyddodd Newcastle i ddal gafael ar y fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn golygu y bydd y rheolwr Eddie Howe a’r tîm yn cael eu cofio yn y llyfrau hanes. Mae hefyd yn golygu eu bod wedi ennill eu lle yn Ewrop y tymor nesaf.